Efrydiaeth WGSSS ESRC mewn Iechyd a Llesiant a Gwyddorau Data

Mae’n bleser gan Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr Iechyd, Lles a Gwyddor Data fydd yn dechrau ym mis Hydref 2027.   

Meini Prawf Mynediad

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.  

Hyd yr astudiaeth

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 (PhD) i 4 (MSc + PhD) blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).    

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.  

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i’r ymgeiswyr roi cyflwyniad ar y gwaith ymchwil arfaethedig, ac ymateb i gwestiynau aelodau'r panel.

Sut i wneud cais

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 23.55, 14 Rhagfyr 2026 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.    

Dylai pob cais gael ei gyflwyno drwy'r Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig

 

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   ·

·Ffurflen Gais yr WGSSS

· CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).

· Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.

· Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)  

· Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad) 

 

Mae'n ofynnol i YGGCC adrodd ar ddata Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i'r ESRC, cyngor ymchwil y llywodraeth sy'n ariannu YGGCC. Cyn i chi gyflwyno'ch cais, cwblhewch y Ffurflen Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC gysylltiedig. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen ar wahân wrth gyflwyno'ch cais i'ch sefydliad cynnal.

Cyllid

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.