Graddau Ymchwil

Mae enghreifftiau o destunau ymchwil posibl yn y rhestr isod sy’n adlewyrchu’n diddordebau a gwybodaeth arbennig ni.

Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth myfyrwyr sydd â diddordebau tebyg.

Gellir addasu’r enghreifftiau i adlewyrchu’ch diddordebau, profiad a syniadau eich hun. Awgrymir y byddech yn cysylltu ag aelod o staff i drafod y pwnc ymhellach.

Ymresymiad Blaengar

  • Detholiad Nodweddion Dynameg gyda ‘Fuzzy-Rough Sets’
  • Cyfanrwydd Detholiad Nodweddion Addasedig am ragolygu’r tywydd
  • Pynciau posibl am thesisau sy’n ymwneud â’ Theori Hewristig Chwiliad Ar Hap
  • Pwnc potensial am thesis PhD sy’n ymwneud â Hewristig Chwiliad Ar Hap

Bio-informateg a Bioleg Cyfrifiadurol

  • Cyfleoedd PhD yn y maes ‘Bio-informateg a Bioleg Cyfrifiadurol’ (prosiectau ar gael yn y meysydd ontoleg fio-meddygol, ffenomeg gymharol, ffenoteipio genom-eang cyfundrefnol, ymchwil cyfieithiadol, ffarmacogenomeg, bioleg systemau a chancr, ffenomeg blanhigion)
  • Modelu integreiddiol am ddosbarthu cancrau ar sail genom

Roboteg Deallus

  • Rhwydweithiau synwyryddion addasedig gan ddefnyddio Rheolaeth Pŵer a Data wedi ‘i fio-ysbrydoli
  • Gyrru’n awtomatig ar ffyrdd anniffiniedig
  • Rhaniad-tasgau dynameg mewn haid o robotiaid

Gwelediad, Graffeg a Delweddu

  • Rôl perthnasoedd gofodol yn nosbarthiad micro-calcheiddiad mamograffeg
  • Cywasgiad a symleiddio siapau 3-D
  • Esblygiad rhestr nodweddion yn awtomatig oddi wrth ‘3D point cloud’
  • Archwiliad Siâp 3-D

Anfonwch CV byr atom os hoffech ymgymryd ag ymchwil PhD neu MPhil