Cyflwyniad i Raglennu

Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen sylfaenol mewn sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol ac nid yw'n rhagdybio unrhyw wybodaeth na gallu blaenorol yn y maes hwnnw. Fodd bynnag, bydd angen i chi feddu ar lefel resymol o lythrennedd cyfrifiadurol (e.e. y gallu i osod a rhedeg rhaglenni newydd).

 

Ar ôl archwilio hanfodion ieithoedd cyfrifiadurol ac algorithmau byddwch yn symud ymlaen i ddatrys problemau trwy ysgrifennu eich rhaglenni cyntaf gan ddefnyddio'r iaith C++. Cyflwynir ar-lein trwy ddarlithoedd, recordiadau a gweithdai ymarferol y bydd angen mynediad i gysylltiad rhyngrwyd ar eu cyfer.


Lleoliad:
 Ar-lein
Lefel: Dechreuwyr
Dyddiadau:
 20 Mehefin - 22 Gorffennaf 2022
Cyswllt:Graeme Tyson grt20@aber.ac.uk
Amser cyswllt: Dwy noswaith yr wythnos, 5 wythnos
Cost: Rhad ac am ddim

More info: https://www.aber.ac.uk/cy/modules/deptcurrent/CX12010/ABS/