Ynglŷn â'n Graddau

‌‌Cynlluniwyd ein cynlluniau gradd mewn Cyfrifiadureg ar system fodwlar hyblyg.

Byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau craidd mewn cyfrifiadureg mewn modiwlau a fydd yn cyfrif am tua dwy ran o dair o’ch astudiaethau.

Yna, gallwch ddewis naill ai arbenigo mewn un o’r amryw feysydd o fewn Cyfrifiadureg, neu ehangu eich profiad drwy ddewis modiwlau o adrannau eraill.

Mae myfyrwyr anrhydedd gyfun yn treulio hanner eu hamser yn astudio cyfrifiadureg, a hanner ar eu pwnc arall. Mae myfyrwyr sy’n dewis Cyfrifiadureg fel prif bwnc yn treulio dwy ran o dair o’u hamser gyda’r adran, a thraean yn dilyn rhaglen gydlynol o fodiwlau fel is-bwnc mewn pwnc arall. Mae yna hefyd gynllun is-bwnc mewn Cyfrifiadureg, a gynlluniwyd i alluogi myfyrwyr sy’n astudio pynciau eraill i ddysgu am raglennu, dylunio meddalwedd a’i roi ar waith, a chronfeydd data.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen gyffredin i’r holl fyfyrwyr, ni waeth a ydynt eisoes wedi astudio cyfrifiadureg ai peidio. Bydd myfyrwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol o gyfrifiadura yn cymryd modiwl sy’n cyflwyno cysyniadau datblygu meddalwedd, yr amgylchedd meddalwedd yn Aberystwyth, ac iaith raglennu Java. Bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cyfrifiadura, yn yr ysgol neu’r coleg, neu sy’n brofiadol yn y maes, hefyd yn dysgu Java, ond mewn modiwl sy’n pwysleisio dylunio a rhaglennu ar raddfa fawr.

Mae modiwlau craidd eraill y flwyddyn gyntaf yn cyflwyno cronfeydd data (oni bai bod y myfyrwyr wedi eu hastudio ar lefel A neu gyfatebol), egwyddorion pensaernïaeth cyfrifiaduron, rhaglennu ar gyfer y we, a datblygu personol a phroffesiynol. Mae’r modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddysgu rhagor am feysydd lle rydych o bosib angen mwy o wybodaeth gefndirol, neu i ymchwilio i feysydd y gallwch eu hastudio mewn mwy o ddyfnder mewn blynyddoedd diweddarach.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn arbenigo yn eich pwnc dewisol. Bydd yr holl fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl Cylch Bywyd Datblygiad Meddalwedd, sy’n cynnwys prosiect grŵp.

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn treulio traean o’ch amser yn gweithio ar brosiect mawr mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.

Achrediad Proffesiynol

Mae Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) yn derbyn pob un o'n graddau, lle mae myfyriwr yn astudio modiwlau cyfrifiadureg ar gyfer o leiaf dwy ran o dair o'u hamser ar gyfer y lefel o achrediad priodol.