Cystadleuaeth y Gadair

Roedd gan y pedwar bardd a ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth hon eleni gysylltiadau gyda'r Adran Gymraeg.    Iwan Rhys   enillodd y Gadair am gerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun “Colli”. Yn ôl y beirniaid, roedd ei gerdd yn "awdl aeddfed, awdl ddofn, lân a grymus - awdl deilwng iawn o Gadair Eisteddfod yr Urdd". Mae Iwan newydd gwblhau ei draethawd MPhil. Cyn-fyfyriwr yn yr Adran,  Osian Rhys Jones, ddaeth yn ail a dyfarnwyd y drydedd wobr i  Dewi Huw Owen (bardd y Goron) a Gruffudd Eifion Owen, ill dau yn dilyn cwrs MPhil yn yr Adran.