Prof Mererid Hopwood
BA Cydanrhydedd (Prifysgol Cymru, Aberystwyth), PhD (Coleg y Brifysgol, Llundain),
Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Manylion Cyswllt
- Ebost: meh64@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0001-8875-332X
- Swyddfa:2.50 Adeilad Parry-Williams
- Ffôn: +44 (0) 1970 2146
- Proffil Porth Ymchwil (https://research.aber.ac.uk/en/persons/b9212e83-7f8f-4787-9154-c2691fcd39d5)
- Personal Pronouns: hi/ei
Daeth yr Athro Mererid Hopwood i Gadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021. Cyn hynny, bu’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae wedi treulio ei gyrfa ym myd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016 am ei chasgliad o gerddi, Nes Draw. Bu’n fardd plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n’Og 2018 am ysgrifennu i blant. Yn 2023 cafodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Cyfieithodd nifer o weithiau llenyddol i’r Gymraeg gan gynnwys dramâu o’r Sbaeneg a’r Almaeneg ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Academi Gymreig, yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Hi yw ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.
Cyfarwyddwr Ymchwil yr Adran
Gwybodaeth ychwanegol
Ers fy nyddiau fel myfyrwraig yn Aberystwyth yng nghanol yr 1980au rwyf wedi manteisio ar bob math o gyfleoedd i ddatblygu fy nealltwriaeth am iaith a llenyddiaeth Cymru a rhai o wledydd eraill Ewrop, gan feithrin diddordeb arbennig mewn ysgrifennu a chyfieithu. Cefais gyfle i fyw yn yr Almaen a Sbaen a chyfle hefyd i deithio i lefydd mor amrywiol â Chile a Tymbl, Awstria ac Abertawe, ac o Leipzig i Langollen a Ledbury i ddarllen cerddi a thrafod llenyddiaeth. Ac eleni, er y bydd llawer o’r teithio’n rhithiol, fel Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, rwy’n edrych ymlaen at gyfle i ddod i ddysgu mwy am ddiwylliannau gwledydd fel Colombia, Mecsico a Pheriw.
Rwy’n mwynhau cydweithio gydag eraill i gyfuno ffurfiau creadigol. Ymhlith y math hwn o waith mae’r Cantata Memoria, Er Cof am y Plant gyda Karl Jenkins, Hwn yw Fy Mrawd gyda Robat Arwyn a’r opera Wythnos yng Nghymru Fydd gyda Gareth Glyn. O ran dawns wedyn, dros y Cyfnodau Clo diweddar, rwyf wedi dysgu llawer drwy’r prosiect Plethu i greu darnau fel Aber Bach a Hirddydd ar y cyd â Chwmni Dawns Cymru.
Rwy’n aelod o bwyllgor gwaith Barddas, bwrdd golygyddol Y Traethodydd, bwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru a bwrdd academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rwyf hefyd yn aelod cysgodol o bwyllgor gwaith Cymdeithas y Cymod ac yn Is-Lywydd y Movement for the Abolition of War
- AB1 Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar, 1979- (CY25220)
- AB1 Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar (1979-) (CY35220)
- AB2 Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol (CYM5820)
- AB2 Beginning Welsh ii (WE11320)
- AB2 Welsh Language 2 (WEM0220)
- AB1 Welsh Language 1 (WEM1120)
Module Coordinator
- AB1 Beginning Modern Welsh 1 (WE11220)
- AB2 Beginning Welsh ii (WE11320)
- AB2 Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol (CYM5820)
- AB1 Cymraeg Llafar (CY13020)
- AB1 Gloywi Iaith (CY20120)
- AB1 Gloywi Iaith yr Ail Iaith (CY31120)
- AB1 Gweithdai Ysgrifennu Creadigol (CY20420)
- AB2 Introduction to Welsh Literature (WE11420)
- AB1 Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol (CY11520)
- AB1 Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol (CY30420)
- AB1 Sgiliau Astudio Iaith a Llên (CY13120)
- AB1 Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 (CY11120)
- AB1 Traethawd Estynedig (CY36040)
- AB1 Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg (CY10920)
- AB2 Welsh Language 2 (WEM0220)
- AB2 Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu (CY32420)
- AB2 Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu (CY22420)
Lecturer
- AB1 Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar (CY21420)
- AB1 Gweithdai Ysgrifennu Creadigol (CY20420)
- AB1 Gweithdai Ysgrifennu Creadigol (CY30320)
- AB1 Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol (CY30420)
Moderator
- AB1 Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol) (CYM5310)
- AB2 Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol) (CYM5410)
- AB1 Prosiect Hir (CY35940)
- AB1 Traethawd Estynedig (CY36040)
Grader
- AB1 Sgiliau Astudio Iaith a Llên (CY13120)
Course Viewer
Ymchwil
Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil diweddar gyda sylw arbennig i farddoniaeth; cyfieithu llenyddiaeth; llenyddiaeth plant; llenyddiaeth heddwch; a datblygu cwricwlwm ac addysgeg iaith.
Research output: Non-textual form › Performance
Research output: Non-textual form › Performance
1 ed. Llandysul: Cyhoeddiadau Barddas | Barddas Publications, 2025. 114 p.
Research output: Book/Report › Book
In: O'r Pedwar Gwynt, Vol. Haf, No. 27, 27, 10.08.2025.
Research output: Contribution to journal › Article
2024.
Research output: Contribution to conference › Other
