Dr Rhianedd Jewell

BA (Rhydychen), MSt (Rhydychen), DPhil (Rhydy

Dr Rhianedd Jewell

Darlithydd Uwch Cymraeg Proffesiynol

Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Dirprwy Bennaeth Ysgol

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Manylion Cyswllt

Uwch Ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Rhianedd. Ar ôl cwblhau gradd BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Rhianedd ymlaen i gyflawni MSt a DPhil yno ym maes Eidaleg. Pwnc ei doethuriaeth oedd yr awdures Sardeg, Grazia Deledda, a chanolbwyntiodd yn arbennig ar iaith, adroddiant a hunaniaeth yng ngwaith yr awdures hon. Gweithiodd Rhianedd fel Lector Celtaidd Prifysgol Rhydychen cyn dechrau swydd ddarlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012. Ymunodd hi ag Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2013.

Mae Rhianedd yn ymddiddori'n fawr ym maes astudiaethau cyfieithu, yn arbennig cyfieithiadau llenyddol i'r Gymraeg o ieithoedd Ewropeaidd. Mae hi hefyd yn ymchwilio i faes cyfieithu proffesiynol, llenyddiaeth menywod, a'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru a'r Eidal.

 

Gwobrau

Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis (2013)

Ysgoloriaeth Burgen (gwobrwywyd gan Academia Europaea) (2016)

Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a'r Dyniaethau (gwobrwywyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru) (2018)

Adolygiad Gororion gan Angharad Price. / Jewell, Rhianedd.
In: Y Traethodydd, 31.07.2024.

Research output: Contribution to journalBook/Film/Article Review

Simultaneous Interpretation in Interpreter-Mediated Remote Legal Proceedings: Some Observations from a Forum Theatre Study. / Huws, Catrin Fflur; Jewell, Rhianedd; Binks, Hanna et al.
In: Comparative Legilinguistics, Vol. 57, 20.03.2024, p. 41-66.

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Darllen Cyfieithiadau: Mwy na Geiriau. / Jewell, Rhianedd.
Beth yw'r Gymraeg. ed. / Angharad Naylor; Llion Pryderi Roberts; Dylan Foster Evans. Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press, 2023.

Research output: Chapter in Book/Report/Conference proceedingChapter

Rhifyn Arbennig ar Lenyddiaeth Gymraeg a Chyfieithu. / Jewell, Rhianedd (Editor); Sams, Hannah (Editor); Miguelez-Carballeira, Helena (Editor).
In: Y Traethodydd, 30.04.2023.

Research output: Contribution to journalSpecial Issuepeer-review

Tri Chyfieithiad yn Chwilio am Awdur: Perfformadwyedd Pirandello yn Gymraeg. / Jewell, Rhianedd.
In: Y Traethodydd, 30.04.2023.

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil