Yr Athro Emeritws John Aitchison
Gyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth yr Athro Emeritws John Aitchison, cyn-Gadair Gregynog mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd John yn un o'r unigolion hynny fyth adawodd Aberystwyth ar ôl cyrraedd fel myfyriwr. Cyrhaeddodd ym 1960 i astudio yn yr hyn a oedd, ar y pryd, yn Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg, cyn cwblhau PhD yn yr un adran. Fe'i penodwyd yn Ddarlithydd ym 1967 cyn cael ei ddyrchafu'n Uwch Ddarlithydd ym 1983, yn Ddarllenydd ym 1987, ac i Gadair Gregynog ym 1988.
Roedd yn ddarlithydd ysbrydoledig a ddysgodd gyrsiau ar ddaearyddiaeth ranbarthol Ffrainc ac ar dirweddau gwarchodedig. Arweiniodd gyrsiau maes i Dorset a Ffrainc hefyd a gellid dibynnu arno i wybod y bwytai gorau yn Bayeaux neu Lan Chwith Paris. Mae'r sylwadau niferus gan gyn-fyfyrwyr ers iddo farw yn tystio i'r eglurder a'r angerdd a nodweddai ei ddarlithoedd. Maent hefyd yn dwyn i gof ei hiwmor a’i gariad at fywyd.
Roedd ei ymchwil yn eang ac yn uchel ei pharch. Cyd-sefydlodd yr Uned Ymchwil Arolygon Gwledig ym 1988 gyda Dr Bill Edwards a dechreuodd yr Uned gyfnod newydd o ymchwil gymunedol ar gefn gwlad Cymru. Arweiniodd John hefyd ymchwil arloesol yr Uned ar dir comin yng Nghymru, a dyfarnwyd gwobr Tywysog Cymru iddo amdani. Canolbwyntiodd llinyn arall o ymchwil John ar ddaearyddiaeth yr iaith Gymraeg a daeth ei lyfrau ac erthyglau niferus ar y thema hon, a gyhoeddwyd gyda Harold Carter, yn brif gynheiliaid ymchwil academaidd a pholisi ar yr iaith.
Yn ogystal, sefydlodd John y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig ddiwedd yr 1980au, a'i phrif weithgaredd oedd rhedeg MSc dysgu o bell mewn Tirweddau Gwarchodedig. Roedd yr MSc yn hynod lwyddiannus a denodd nifer sylweddol o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Bydd cyn-gydweithwyr yn cofio John fel unigolyn cefnogol, hynaws a hawdd mynd ato. Roedd ei gymeriad diymhongar yn cuddio'r cyfraniad mawr a wnaeth i fywyd academaidd yn Aberystwyth ac yn rhyngwladol.
Cynhelir ei wasanaeth angladd am 10.30 ddydd Llun, 22 Mehefin yn Eglwys Llanilar. Anfonwn ein cydymdeimlad at Pat, ei wraig, a gweddill y teulu.
