Mapiau byd-eang o garbon coedwigoedd yn cael eu rhyddhau gan Asiantaeth Ofod Ewrop

Dosbarthiad a dwysedd biomas uwchben y ddaear yn 2022 (hawlfraint: ESA/Planetary Visions)
07 Mai 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan bwysig wrth fesur dosbarthiad newidiol carbon yng nghoedwigoedd y Byd a'u cyfraniad at y newid yn yr hinsawdd.
O hyn ymlaen, bydd mapiau o'r carbon sydd wedi’i gynnwys mewn coedwigoedd yn cael eu rhyddhau bob blwyddyn, gan adeiladu ar lyfrgell o ddata sy'n cofnodi’r rhan fwyaf o flynyddoedd rhwng 2007-2022.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o brosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd Asiantaeth Ofod Ewrop. Mae'n cynnwys mwy na 500 o wyddonwyr a pheirianwyr data o bob cwr o Ewrop.
Dywedodd yr Athro Richard Lucas, sydd wedi rheoli'r prosiect ers 2019: "Mae'r mapiau hyn yn hanfodol wrth olrhain sut mae carbon yn newid yn rhai o'r ardaloedd dwysaf o lystyfiant ledled y byd. Carbon yw tua 50% o bwysau coed felly mae'r mapiau hyn yn rhoi'r darlun mwyaf cywir hyd yma o stociau carbon ledled y byd."
Dywedodd Heather Friendship-Kay, Cydlynydd Prosiect Biomas: "Mae'r mapiau’n darparu'r cofnod hiraf o fiomas yn fyd-eang ac yn darparu set ddata fawr i gynorthwyo modelu hinsawdd a gwyddoniaeth garbon. Mae'r prosiect hefyd wedi elwa'n aruthrol o ddata radar a ddarparwyd gan Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan (JAXA)."
Mae rhyddhau'r mapiau yn cyd-fynd â lansiad lloeren BIOMASS newydd Asiantaeth Ofod Ewrop ddiwedd mis Ebrill. Mae'r lloeren yn defnyddio tonfeddi radar hirach sy'n treiddio drwy gymylau.
Bydd y daith BIOMASS yn darparu gwybodaeth newydd am y symiau carbon mewn llawer o goedwigoedd trofannol a thymherus sy'n storio'r cyfansymiau mwyaf o fiomas uwchlaw’r tir ac yn enwedig y rhai dros 350-400 tunnell yr hectar. Mae'r rhain yn cynnwys coedwigoedd glaw trofannol Amazonia, Canolbarth Affrica a De-ddwyrain Asia, coedwigoedd mynyddig yn Asia a choedwigoedd tymherus caeedig tal yn Awstralia. Ychwanegodd yr Athro Lucas: "Rydym yn gobeithio ac yn rhagweld y bydd data o'r daith hon, pan fydd ar gael, yn gallu ymestyn y cofnod o fiomas sydd wedi'i storio yng nghoedwigoedd y byd, gyda hyn yn lleihau ansicrwydd yn y cylch carbon byd-eang a'i gyfraniad at newid yn yr hinsawdd."
Dywedodd Dr Frank Martin Seifert, Swyddog Technegol Asiantaeth Ofod Ewrop: “Mae rhyddhau setiau data prosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd Asiantaeth Ofod Ewrop yn gyfnod allweddol i wyddoniaeth hinsawdd gan eu bod yn darparu lefel ddigynsail o gysondeb ac amseroldeb wrth ddarparu amcangyfrifon biomas uwchlaw’r tir yn fyd-eang. Mae hyn yn grymuso ymchwilwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd i olrhain dynameg carbon gyda'r manwl gywirdeb amserol sy'n angenrheidiol ar gyfer cymryd camau ystyrlon o ran newid hinsawdd."