Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Rydym yn ymroddedig i ddarparu digwyddiadau estyn allan ac ymgysylltiad cyhoeddus i ysgolion a cholegau ar draws y DU.
Mae gennym raglen gynhwysfawr o ran cyswllt ag ysgolion a cholegau sydd wedi’i chynllunio i gyfoethogi’r cwricwla TGAU a Safon Uwch, gan ddarparu amrywiaeth o adnoddau i fyfyrwyr Daearyddiaeth, Daeareg, Astudiaethau Amgylcheddol a Chymdeithaseg.
Dyma rai o’r pynciau yr ydym yn eu cynnig:
- Newid hinsawdd
- SGD a Synhwyro o Bell
- Cylchrediad atmosfferaidd
- Prosesau afonol
- Tectoneg platiau
- Peryglon naturiol
- Tirweddau rhewlifol
- Daearyddiaeth drefol a gwledig
- Newid yn y boblogaeth
- Globaleiddio a datblygu
- Cynaliadwyedd
Byddai ein staff o ymchwilwyr o’r radd flaenaf yn y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol yn barod iawn i weithio gyda chi a’ch staff i greu cyflwyniadau pwrpasol yn ôl y gofyn hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Athro Mark Whitehead ar msw@aber.ac.uk.
Hwb Cwrs Maes Daearyddiaeth a Daeareg Aberystwyth
Mae Hwb Cwrs Maes Daearyddiaeth a Daeareg Aberystwyth yn ddelfrydol i ysgolion a cholegau sy’n cynnig elfennau gwaith maes ar gyfer Daearyddiaeth, Daeareg, Astudiaethau Amgylcheddol a phynciau tebyg ar gyfer TGAU a Safon Uwch.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyrchfannau maes lleol ar dudalen Ysgolion Aber, gyda gwybodaeth am y llety sydd ar gael ar ein tudalen Aros yn Aber.