Cyfleusterau

 

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cynnal cyfleusterau labordy ac offer maes o'r radd flaenaf sy'n cynorthwyo gwaith ymchwil ar draws y gwyddorau daear a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys labordai ymchwil dyddio ac ymchwil geocemegol o'r radd flaenaf ac ystafell geomateg uwch gan gynnwys sganwyr laser daearol, gweithfan gyfansawdd robotig a GPS RTK.

Mae gan yr adran hefyd gyfleusterau addysgu a chyfrifiadura cyfoes i fyfyrwyr gan gynnwys y Llyfrgell Mapiau Digidol ac ystod o labordai addysgu a ddefnyddir ar gyfer sesiynau ymarferol ac ymdriniaethau unigol.

Ymhlith y gwasanaethau ar gael i'r staff mae swyddfa reprograffeg cartograffeg/lluniadu gynhwysfawr a chyfleusterau cynnal a chadw offer electroneg/cyfrifiaduron.

Labordau

Labordy Arsylwi'r Ddaear

Lleolir Labordy Arsylwi'r Ddaear yn Nhŵr Llandinam ac mae yno feddalwedd a chaledwedd o'r radd flaenaf ar gyfer prosesu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth ofodol. Ar gyfer prosesu data a synhwyrir o bell yn gyffredinol, mae IDL ENVI, Erdas ac eCognition ar gael, ac ar gyfer prosesu arbenigol LiDAR a SAR, mae meddalwedd Cyclone, TerraScan a Gamma SAR ar gael. Mae'r Labordy hefyd wedi datblygu ei sylfaen cod ei hun ar gyfer prosesu amrywiaeth o ddata (RSGISlib). Mae gweithfannau Windows a Linux pwrpasol yn y labordai. Ymhlith yr offer maes, mae sganiwr laser daearol Leica, systemau lleoli byd-eang differol a chamau stocrestr coedwigoedd. Mae labordy ymchwil pwrpasol hefyd ar gyfer myfyrwyr graddau PhD a Meistr gyda 15 o weithfannau. 

Labordy Palaeoecoleg

Mae'r Labordy Palaeoecoleg yn rhan o Grŵp Ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae'r ymchwilwyr yn ymchwilio i gofnodion gwaddodol y newid hinsoddol a llystyfiant o lynnoedd yn Ethiopia, Kenya a Mecsico. Mae prosiectau eraill yn ymwneud â hanes amgylcheddol ym Moroco, Twrci, Iwerddon a Chymru, ac adnabod paill yn gyfrifiadurol. Mae gan y labordy ystod o ddyfeisiau corio gwaddodion, ynghyd â sampleri dŵr a gwaddodion. Does dim byd tebyg yn unman i'r labordai paratoi paill, ac mae gan y labordy microsgopeg ficrosgopau Nikon, Zeiss a Leica, a nifer o gyfrifiaduron ar rwydwaith. Mae gan y casgliad cyfeirio paill ddeunydd o Ewrop, Gogledd America, Gogledd Affrica a Dwyrain Affrica. Mae technegau dadansoddol a ddefnyddir yn y Labordy yn cynnwys dadansoddiadau paill, siarcol, ostracod a diatom, gwaddodeg toriad tenau wedi'i fewnosod â resin, dadansoddiadau isotop sefydlog o garbonadau llynnol (mewn cydweithrediad â Labordy Geocemeg Isotop NERC), a chemeg elfennau hybrin dŵr a microffosilau calchaidd gan ddefnyddio adnoddau cromatograff ïon Dionex DX-100 ac ICP-MS y Sefydliad.

Ar gyfer dadansoddi gwaddodion, mae sganiwr craidd XRF ar gael.

Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth

Mae Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth (ALRL) yn ymfalchïo mewn bod yn labordy ymchwil o safon fyd-eang sy'n ymchwilio i'r mecanweithiau ffisegol cysylltiedig â goleuedd a gynhyrchir gan fwynau sy'n bodoli'n naturiol, a chymhwyso hyn i'r gwaith o ddyddio gwaddodion er mwyn egluro digwyddiadau Cwaternaidd, i oleuo ein gwybodaeth ynghylch esblygiad bodau dynol anatomegol fodern ac i ddiffinio cyfraddau prosesau geomorffolegol.

Prif nod y labordy yw gwneud gwaith ymchwil arloesol o safon fyd-eang i ddatblygiad a chymhwysiad dyddio ymoleuedd. Gwneir y gwaith ymchwil gan staff, myfyrwyr ôl-raddedig a chymrodyr ôl-ddoethurol ar ystod o bynciau. Mae llawer o'r myfyrwyr PhD a'r Chynorthwywyr Ymchwil Ôl-ddoethurol a hyfforddwyd yn ALRL wedi mynd ymlaen i redeg eu labordai eu hunain ledled y byd. Yn ogystal, mae'r labordy yn aml yn croesawu ymwelwyr nodedig o dramor, naill ai gwyddonwyr o labordai goleuedd eraill o ran arall o'r byd sy'n dymuno treulio amser gydag ymchwilwyr ALRL, neu bobl sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o oleuedd ac sy'n dymuno dysgu'r dechneg.

Mae ALRL yn gyfleuster a gydnabyddir gan NERC, am ei gyfranogiad cydweithredol mewn prosiectau dyddio penodol, ac am hyfforddi ymchwilwyr ym maes dyddio goleuol. Yn ogystal, mae'r cyfnodolyn Ancient TL, sy'n delio â materion cysylltiedig â chymhwyso goleuedd a dyddio cyseiniant sbin electronau wedi'i gyhoeddi gan ALRL ers 2004.

Llyfrgell Map Digidol

Llyfrgell Fapiau Ddigidol

Agorodd y Llyfrgell Fapiau Ddigidol yn 2011 ac mae’n cynnig gweithfannau unigol i fyfyrwyr gael defnyddio adnoddau mapio digidol fel Digimap a Getmapping. Mae meddalwedd GIS, sy'n helpu i arddangos a thrin y setiau data hyn, ar gael ym mhob gweithfan.

Adnoddau ar-lein

  • DIGIMAP  Mae'r adran yn tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn sy'n darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol BGS.
  • IRELAND MAPVIEWER  Dangosydd mapiau rhagorol i'r porwr o Iwerddon gyda mapiau stryd manwl, mapiau topograffig, awyrluniau a mapiau hanesyddol ar raddfa 6 a 25 modfedd.
  • MAPIAU GOOGLE  Map defnyddiol o’r byd y gellir ar y we y gellir ei chwilio, sydd hefyd yn rhoi delweddau lloeren, cyfarwyddiadau, mapiau tirwedd, dolenni i we-gamerâu, traffig, tywydd ac ati.
  • Mae'r hollbresennol GOOGLE EARTH wedi'i osod ar bob un o gyfrifiaduron y llyfrgell fapiau. Mae'n gadael i chi hedfan i unrhyw le ar y Ddaear i weld delweddau lloeren, mapiau, tir ac adeiladau 3D. Gallwch hefyd ymweld â'r lleuad, y blaned Mawrth a'r gofod!
  • Mae FLASH EARTH yn ddangoswr delweddau lloeren syml ar y we sy'n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer pori cyffredinol.
  • Mae LANDMAP yn darparu data gofodol ac adnoddau dysgu ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae'n dangos mosäig delwedd lloeren o ddata radar Landsat, SPOT ac ERS a Model Gweddlun Digidol cydraniad uchel ar gyfer Ynysoedd Prydain. Mae'r data hwn ar gael mewn fformatau sydd ar gael yn rhwydd i ddefnyddwyr systemau gwybodaeth ddaearyddol, prosesu delweddau a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith. (Angen cofrestru)
  • NERC SOIL PORTAL Porwr gwe o wybodaeth am bridd ar gyfer y Deyrnas Unedig.
  • USGS MAP GEOLEG AC ADNODDAU'R BYD Map defnyddiol o'r byd ar y porwr sy'n dangos mapiau olew a nwy, mapiau geothermol a daeareg arwyneb rhyngwladol. (Allwedd ar gael yn yr eicon 'layer details').
  • ANTARCTIC Mae cronfa ddata Digidol yr Antarctig (ADD) yn gasgliad o ddata topograffig ar raddfa ganolig ar gyfer cyfandir Antarctica. Mae'n deillio o amrywiaeth eang o ffynonellau a'i nod yw darparu'r data gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ym mhob maes.
  • US NATIONAL MAP VIEWER Dangosydd mapiau rhagorol o'r Unol Daleithiau gyfan gyda chyfoeth o haenau data.

Casgliad Mapiau Papur

Mae'r llyfrgell fapiau hefyd yn cadw casgliad mawr o fapiau papur, yn enwedig mapiau daeareg BGS o Brydain a mapiau OS o wahanol raddfa ac oedran. Mae nifer o fapiau yn y storfa hefyd o wahanol rannau o'r byd.

Daeth y casgliad mapiau papur o’r hen Adran Ddaearyddiaeth a sefydlwyd ym 1917-18, ond daeth y rhan fwyaf o’r eitemau i feddiant y llyfrgell fapiau pan symudodd yr adran i Gampws Penglais ym 1965. Yn ei anterth, roedd y casgliad yn cynnwys dros 80,000 o fapiau a thua 500 o atlasau a chyfeirlyfrau. Yn dilyn creu’r Llyfrgell Fapiau Ddigidol, rhoddwyd nifer o fapiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ysgolion lleol ac unigolion preifat.