Ymchwil

Dyn yn sefyll ar rewlif

Nod ymchwil yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear yw gwella dealltwriaeth o amgylcheddau naturiol a chymdeithasol planed y Ddaear, y prosesau sy’n eu ffurfio, a mynd i’r afael â’r heriau sy’n codi o newid cymdeithasol ac amgylcheddol.

Rydym ni’n adran drawsddisgyblaethol, yn cwmpasu safbwyntiau a dulliau o’r gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau. Ein ffocws yn bennaf yw disgyblaeth Daearyddiaeth a’i ryngwyneb â Gwyddorau’r Ddaear ac Amgylcheddol, ond rydym ni hefyd yn ymwneud â disgyblaethau cytras, o Archaeoleg i Ffiseg i Gymdeithaseg, gan dynnu ar elfennau ohonynt a chyfrannu atynt.

Yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth cewch eich addysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain y byd mewn amrywiaeth eang o feysydd daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor amgylcheddol gwyddor y Ddaear a chymdeithaseg, gan weithio ar draws sawl grŵp ymchwil penodol sy’n cysylltu â rhwydweithiau rhyng-sefydliadol, canolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol traws-brifysgol, a labordai ac unedau ymchwil arbenigol. Y grwpiau ymchwil hyn yw’r Ganolfan Rhewlifeg; Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol; Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystem; Prosesau Arwyneb y Ddaear; Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd; Newid Amgylcheddol Cwaternaidd; a’r Ganolfan Ryngddisgyblaethol ar gyfer Microbioleg a Geowyddoniaeth Amgylcheddol.

Canolfan Rhewlifeg

Ers ei sefydlu ym 1994 yn uned ymchwil ffurfiol o fewn Prifysgol Aberystwyth, mae’r Ganolfan Rhewlifeg wedi datblygu i fod yn un o'r grwpiau ymchwil mwyaf blaenllaw ym Mhrydain sy'n ymwneud ag astudio rhewlifoedd a’u cynhyrchion gwaddodol.

Ein nod yw adnabod a mesur prosesau cryosfferig, a chloriannau eu rôl mewn newidiadau amgylcheddol byd-eang yn awr, yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Wrth roi pwyslais ar ymchwil maes i’r broses rhewlifeg, y bwriad yw rhoi cyfyngiadau realistig ar y gwaith o ddatblygu modelau rhifol, ac i fod yn sylfaen i ddehongli cofnodion rhewlifol y gorffennol.

Mae ein themâu ymchwil craidd yn bennaf ym meysydd dynameg rhewlif, palaeo-rewlifeg a rhewlifeg gymhwysol.

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys system Cryoflux gyda labordy penodedig, offer drilio a chyfleuster synhwyro/modelu o bell.

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu meysydd daearyddol eang, ac rydym yn cydweithio ag ymchwilwyr mewn nifer o wledydd. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r rhain wedi cynnwys Antarctica, Prydain, Patagonia Chile, tir mawr Norwy, yr Arctig yn Norwy (Svalbard), yr Alpau yn y Swistir a Ffrainc, yr Himalaya yn Nepal, Seland Newydd, yr Andes ym Mheriw a'r Yukon.

I gefnogi ein hymchwil mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig rhaglen PhD.

Earth Surface Processes

Mae Grŵp Ymchwil Prosesau Arwyneb y Ddaear yn ceisio deall y prosesau sy'n digwydd ar arwyneb y Ddaear drwy fesur cyfraddau newid a'u heffaith ar dirffurfiau, sianeli afonydd, priddoedd, cylchoedd carbon, dŵr ac esblygiad y dirwedd.

Rydym yn croesawu ac yn annog cysylltiadau anffurfiol ynglŷn â gweithio gyda ni, naill ai fel rhan o raglen PhD, i ddatblygu ceisiadau am gynnig ymchwil neu i astudio ar yr MSc Newid Amgylcheddol, Effaith ac Ymaddasu.

Newid Amgylcheddol Cwaternaidd

Nod y Grŵp Ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd (QECRG) yw egluro newid amgylcheddol a chysylltiadau rhwng yr amgylchedd dynol dros gyfnodau amser sy'n ymestyn o ddegau o flynyddoedd i gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Mae deunyddiau dirprwyol ar gyfer newid hinsawdd yn cael eu hadennill o gofnodion gwaddodion llynnoedd, marianbridd, twyni ar arfordiroedd ac ar ddiffeithdiroedd ac archifau hanesyddol. Mae uned arsylwi'r ddaear hefyd yn canolbwyntio ar ddisgrifio nodweddion amgylcheddau daearol a'u hymateb diweddar i newidiadau naturiol ac anthropogenig.

Mae'r grŵp yn dwyn ynghyd arbenigwyr yn y canlynol:

  • Labordy Ymchwil Ymoleuedd
  • Palaeoecoleg (yn enwedig paill a diatomau)
  • Teffrogronoleg
  • Gweithgaredd folcanig

Er mwyn galluogi'r ymchwil hon, mae'r grŵp yn cynnal labordai o'r radd flaenaf ar gyfer dyddio drwy ymoleuedd (a gydnabyddir gan yr NERC), arsylwi ar y ddaear (gan gynnwys Canolfan Ragoriaeth Academaidd Definiens), palaeoecoleg a dadansoddi gwaddodion.

Mae gan y QECRG wyth aelod o staff academaidd (Geoff Duller, Henry Lamb, Nick Pearce, Helen Roberts, Sarah Davies, Richard Lucas, Peter Bunting a John Grattan), nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a chymrodyr ymchwil.

Mae aelodau'r grŵp wrthi’n arwain prosiectau ymchwil mewn cofnodion o newid yn yr hinsawdd drofannol Holosen yn Affrica a chanol America, hinsoddau de Affrica a chofnod pobl fodern gynnar, cofnodion llif llwch drwy'r cyfnod Cwaternaidd hwyr, effaith gweithgaredd folcanig ar iechyd pobl. Mae ein hymchwil mewn arsylwi ar y ddaear a deinameg ecosystemau yn canolbwyntio ar ddisgrifio nodweddion, mapio a monitro llystyfiant daearol ar draws ystod o fiomau.

Er mwyn cefnogi hyfforddiant ar gyfer ymchwil, mae'r QECRG yn cynnig MSc un flwyddyn mewn Synhwyro o Bell a GIS.

Earth Observation and Ecosystem Dynamics

Mae gan Grŵp Ymchwil Arsylwi'r Ddaear a Deinameg Ecosystemau ffocws byd-eang ac mae'n ymdrin ag ystod o amgylcheddau o goedwigoedd glaw trofannol a mangrofau i rewlifoedd uchel.

Nod Labordy Arsylwi’r Ddaear a Deinameg Ecosystemau yw hybu’r defnydd o ddata synhwyro o bell ar y ddaear, yn yr awyr ac yn y gofod er mwyn deall yn well effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol gweithgareddau anthropogenig a newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau ac amgylcheddau.

Mae cyfleusterau cyfrifiadurol a chyfleusterau maes yr Uned hefyd yn adnodd pwysig yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (DGES) sy'n rhoi mynediad i staff a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i rai o'r cyfleusterau diweddaraf a'r feddalwedd gyfrifiadurol ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer prosesu data. Darperir hyfforddiant mewn theori synhwyro o bell a hefyd defnydd ymarferol o feddalwedd synhwyro o bell a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

Mae gan yr Uned arbenigedd hefyd wrth ddefnyddio ystod amrywiol o ddata sy'n deillio o synhwyro o bell gan gynnwys radar a gludir yn yr awyr/gofod, synwyryddion aml-sbectrol a gorsbectrol a synwyryddion Canfod Golau ac Anelu (LiDAR) gyda staff a myfyrwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd sy’n cynnwys ffiseg, cyfrifiadureg, bioleg a daearyddiaeth. Mae amrywiaeth o Awyrennau Bach Di-griw o ansawdd uchel yn ogystal ag amrywiaeth o offer maes arall ar gael yn y grŵp ymchwil (Cyfleusterau gydag EOED).

Mae ein prosiectau'n cynnwys gweithio'n agos gydag amryw o asiantaethau, mentrau a llywodraethau ledled y byd gan gynnwys: Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA), Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan (JAXA), y Weinyddiaeth Eronoteg a Gofod Genedlaethol (NASA), Llywodraeth Cymru, Geoscience Australia, Wetlands International, a Mangrove Capital Africa.

Diwylliannol a Hanesyddol

Mae Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw i ymchwil ym maes daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol. Mae aelodau'r grŵp wedi ymchwilio'n helaeth mewn nifer o feysydd, ac rydyn ni'n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio yn Aberystwyth.

Aelodau: Peter Merriman (Pennaeth), Robert Dodgshon (Emeritus), Elizabeth Gagen, Gareth Hoskins, Rhys A Jones, Mitch Rose, Rita Singer.

Aelodau uwchraddedig: Rhodri Evans, Elinor Gwynn, Silvia Hassouna, Flossie Kingsbury, Eleri Phillips, Lowri Ponsford.

Aelodau cyswllt:  Jesse Heley, Rhys Dafydd Jones, Cerys Jones, Hywel Griffiths, Sarah Davies, Mark Whitehead, Michael Woods.

Prif Themâu Ymchwil:

Landscape imageTirwedd ac Amgylchedd

Datblygu agweddau damcaniaethol tuag at dirwedd, archwilio'r berthynas rhwng tirwedd, diwylliant a hunaniaeth (Rose), symudedd (Merriman), cof (Hoskins, Rose), ac amser (Dodgshon, Hoskins). Gwnaed ymchwil empeiraidd ar dirweddau llwyfandir Giza yng Nghairo (Rose), tirweddau mwyngloddio Califfornia, De Affrica, a Chymru (Hoskins), tirweddau gyrru ym Mhrydain (Merriman), amgyffred tirweddau Califfornia trwy gyfrwng dawns gan Anna a Lawrence Halprin (Merriman), ffermydd trefol yn Detroit (Rose), a thirweddau gwledig ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban (Dodgshon).

Gwnaed ymchwil cynhwysfawr hefyd ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol amrywiaeth mawr o amgylcheddau, yn aml mewn cydweithrediad ag aelodau'r grŵp ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar hanes amgylcheddol cloddio glo, aur a diemwntau (Hoskins, Whitehead), gwerthoedd amgylcheddol (Hoskins), daearyddiaeth hanesyddol rheoli atmosfferig (Whitehead), atgofion am ddigwyddiadau tywydd eithafol yn y Deyrnas Gyfunol (Cerys Jones, Sarah Davies), effaith amgylcheddol cymunedau alpaidd a’u defnydd o adnoddau (Dodgshon).

Bicycles on bridges over canalSymudedd

Mae Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw i ymchwil ym maes daearyddiaeth symudedd, a gwneir ymchwil ar ontoleg symudol a symudedd-gofod (Merriman), ymfudo (Hoskins, Rhys Dafydd Jones, O'Connor), a daearyddiaeth diwylliant moduro. Mae prosiectau ymchwil wedi canolbwyntio ar ddaearyddiaeth y draffordd M1 yn Lloegr, canolfannau mewnfudo yr Unol Daleithiau (Hoskins), a hanes cynnar gyrru ym Mhrydain (Merriman).

Mae aelodau'r grŵp yn cydweithio'n agos ag ysgolheigion o bob rhan o'r byd, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl.

Materoldeb, Cof a Threftadaeth

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar y man cyfarfod rhwng themâu materoldeb, amser, cof, treftadaeth, gwleidyddiaeth, a lle.

Mae tri aelod o'r grŵp yn rheoli rhan Aberystwyth mewn prosiect mawr aml-bartner pedair blynedd 'Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’ (2019-2023), a gyllidir gan raglen Iwerddon-Cymru Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), sy'n astudio hanes a threftadaeth pump o borthladdoedd pwysig yn Iwerddon a'r teithiau rhyngddynt (Merriman, Rhys Jones, Singer).

Mae prosiectau eraill yn archwilio safleoedd treftadaeth ddiwydiannol a chreu atgofion mwyngloddio (Hoskins), agweddau damcaniaethol ynglŷn ag agweddau amseroldeb (Dodgshon), a’r rhan mae safleoedd treftadaeth yn ei chwarae wrth greu hunaniaeth genedlaethol Eifftaidd (Rose) a hunaniaeth genedlaethol yr Unol Daleithiau (Hoskins). Mae'r ymchwil wedi defnyddio dulliau amrywiol, o ddulliau ethnograffig a chyfranogol i ymchwil archifol a chyfweliadau.

 Seicoleg, ymddygiad a lle

Astudio sut mae awdurdodau wedi ceisio mowldio a llywodraethu dinasyddion trwy dechnegau seicolegol ac ymddygiadol, o ddechrau'r ugeinfed ganrif i'r cyfnod cyfoes. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y rhan sydd i seicoleg datblygiad wrth ystyried cyrff plant yn y cyfnod blaengar yn yr Unol Daleithiau (Gagen), rhan rhaglenni addysg emosiynol wrth ad-drefnu dinasyddiaeth a rhywedd ymhlith ieuenctid cyfoes Prydain (Gagen), ac ymchwil ar ofodau-amser tadofalaeth ysgafn, niwro-ryddfrydiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a mabwysiadu technegau ymddygiad yn y Brydain gyfoes (Rhys Jones, Whitehead).

Daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru

Blaenavon landscape imageAberystwyth yw'r brif ganolfan i ymchwil ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, a'i phwyslais cryf ar ymchwil ar genedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol (Rhys Jones, Merriman), gwleidyddiaeth iaith (Rhys Jones, Merriman), symudedd (Merriman), y cof (Hoskins, Griffiths, Cerys Jones), crefydd (Rhys Dafydd Jones), ieuenctid (Rhys Jones), hanes a threftadaeth porthladdoedd (Merriman, Rhys Jones) a Chymru wledig (Rhys Dafydd Jones, Heley, Woods).

Mae prosiectau penodol wedi canolbwyntio ar: treftadaeth ddiwylliannol porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yng Nghymru, a chysylltiadau hanesyddol ag Iwerddon (Merriman, Rhys Jones, Singer), mwyngloddio, treftadaeth a chof yng Nghymru (Hoskins), Aberystwyth ac ail-greu diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru (Rhys Jones), ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am arwyddion ffordd dwyieithog (Merriman, Rhys Jones), crefydd a hunaniaeth yn y Gymru wledig (Rhys Dafydd Jones), daearyddiaeth hanesyddol byd-ehangu yng nghanolbarth Cymru (Woods, Heley), atgofion am lifogydd ym Mhatagonia (Hywel Griffiths, Stephen Tooth), daearyddiaeth hanesyddol Urdd Gobaith Cymru (Rhys Jones, Merriman), symudedd a chysylltedd yng Nghymru (Merriman, Rhys Jones), daearyddiaeth ddiwylliannol-hanesyddol afonydd Cymru (Griffiths), ac atgofion am ddigwyddiadau tywydd eithafol yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif (Sarah Davies, Cerys Jones). Cyhoeddwyd peth o'r ymchwil yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg.

Mae aelodau'r grŵp yn cydweithio'n agos â'r grŵp ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd.

Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd

Aelodau ac aelodau cyswllt: Professor Mike Woods (Convenor), Dr Catherine Cottrell, Dr Elizabeth Gagen, Dr Jesse Heley, Dr Laura Jones (PDRA, GLOBAL-RURAL & WISERD/Civil Society), Professor Rhys Jones, Dr Rhys Dafydd Jones, Dr Anthonia Onyeahialam (PDRA, GLOBAL-RURAL project), Dr Mitch Rose, Dr Rachel Vaughan (Administrator, GLOBAL-RURAL project), Dr Marc Welsh (PDRA, GLOBAL-RURAL project), Professor Mark Whitehead.

Trosolwg:

Mae'r Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd yn ymwneud ag archwilio'r nifer fawr o groestoriadau rhwng gwleidyddiaeth, gofod a lle, sef yr hyn rydyn ni’n eu diffinio fel maes daearyddiaeth wleidyddol. Mae gennyn ni ddiddordeb yn y modd y mynegir ac yr arferir daearyddiaeth wleidyddol ar raddfeydd sy’n amrywio o'r personol i'r byd-eang, yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. A ninnau’n ddaearyddwyr gwleidyddol 'newydd', rydyn ni wedi ymrwymo i ddod at ddaearyddiaeth wleidyddol o safbwyntiau amrywiol sy'n rhychwantu’r economi gwleidyddol, damcaniaethau ôl-strwythurol a ffeministaidd ac arbrofi â methodolegau ansoddol, meintiol a chyfranogol.

Mae gwaith presennol y Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd yn canolbwyntio ar saith thema allweddol:

  1. Y Gymdeithas Sifil, Cyfranogiad a Llywodraethiant: gan gynnwys prosiectau ymchwil fel rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil/WISERD yr ESRC ar 'Ailddiffinio’r gymdeithas sifil leol mewn oes o gyd-gysylltedd byd-eang' (Woods), 'Mudwyr, lleiafrifoedd ac ymgysylltu â’r gymdeithas sifil leol' (R D Jones), 'Heneiddio, hamddena o ddifrif a chyfraniad yr economi llwyd' (Heley ac L Jones), ac 'Addysg, Iaith a Hunaniaeth' (R A Jones); yn ogystal ag ymchwil barhaus ar leoliaeth a sector y dref, y plwyf a’r gymuned (Woods), a gwaith ar 'lywodraethiant negyddol' (Rose).
  2. Llywodraetholedd, Newid Ymddygiad a Niwroryddfrydiaeth: gan gynnwys ymchwil a ariennir gan raglen Gwyddor Gymdeithasol Drawsnewidiol yr ESRC ar 'Negodi Niwroryddfrydiaeth’ (R A Jones a Whitehead), sy'n adeiladu ar ymchwil flaenorol a ariannwyd gan Leverhulme ynghylch 'tadoldeb meddal' a newid ymddygiad; a gwaith ar lywodraethu ymddygiadau emosiwn (Gagen).
  3. Gwleidyddiaeth, Dinasyddiaeth a Phobl Ifanc: gan gynnwys ymchwil ar ddinasyddiaeth ieuenctid, addysg a hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru (R A Jones) ac Estonia (Cottrell), a gweithio ar rôl seicoleg ddatblygiadol wrth ailgyflunio plant a dinasyddion llywodraethadwy (Gagen).
  4. Economïau Gwleidyddol Newid Gwledig: gan gynnwys ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ar globaleiddio ac ardaloedd gwledig (GLOBAL-RURAL) (Woods, Heley, L Jones, Onyeahialam a Welsh), a diddordebau ymchwil parhaus mewn gwleidyddiaeth wledig a phrotest (Woods), dosbarth a chymunedau gwledig (Heley), a neoryddfrydiaeth a pholisi amaethyddol (Wynne-Jones).
  5. Hunaniaethau Cenedlaethol, Ethnigrwydd a Chrefydd: gan gynnwys ymchwil ar atgynhyrchu cenedl a chenedlaetholdeb Cymru ar wahanol raddfeydd (R A Jones), daearyddiaethau mewnfudo a chrefydd yn ne'r Unol Daleithiau (Cottrell), a chrefydd, lleiafrifoedd a’r gymdeithas wledig (R D Jones).
  6. Gwleidyddiaeth Amgylcheddol a Gwleidyddiaeth Dewisiadau Amgen: gan gynnwys ymchwil sy'n ystyried dimensiynau gwleidyddol newid yn yr hinsawdd (Grove, Whitehead), cynaliadwyeddau cenedlaethol (R A Jones), ac ymagweddau gwleidyddol ac economaidd amgen ynglŷn â chynaliadwyedd amgylcheddol a sofraniaeth fwyd (Rose, Whitehead, Wynne-Jones).
  7. Geowleidyddiaeth, Datblygu a Diogelwch: gan gynnwys ymchwil ar geowleidyddiaeth adfer ar ôl trychineb a gwytnwch yng nghyd-destunau’r byd sy’n datblygu (Grove), biowleidyddiaeth a bioddiogelwch (Grove), a geowleidyddiaeth amgylcheddol (Grove, Whitehead).

Mae aelodau'r Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd hefyd yn gysylltiedig â
Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), sef partneriaeth rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru i feithrin gallu a chydweithrediad yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru, a chyfrannu at waith Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru,  sy'n cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i lunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae aelodau'r grŵp yn weithgar hefyd wrth weithio gydag amryw o asiantaethau eraill y llywodraeth a sefydliadau’r gymdeithas sifil yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mewn gweithgareddau allgymorth cyhoeddus a gwaith yn y cyfryngau, ac mewn datblygu ac ysgrifennu addysgeg, gan gynnwys y gwerslyfr An Introduction to Political Geography, a gyhoeddwyd gan Routledge.

Canolfan Rhyngddisgyblaethol i Fioleg-micro yr Amgylchedd (iCEM)

Nod iCEM yw ymchwilio i bresenoldeb a gweithgarwch micro-organebau a phrosesau bio-geocemegol cysylltiedig, a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â defnyddiau’r ddaear (dyfroedd, creigiau a phriddoedd) mewn amgylchfyd eithafol (oer, poeth, gwasgedd uchel, crynodiad metel uchel). Rydym yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon mewn datrysiadau geopeirianneg i broblemau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, ynni, iechyd ac adnoddau â rhanddeiliaid allweddol. Ymhlith themâu’r ymchwil mae biofwneiddiad cymwysol ar gyfer storio carbon, geo-ficrobioleg rhewlifoedd a biocemeg, darganfod gwrthfiotigau a bioadfer metalau a radioniwclidau.