Dyfarnu cymrodoriaeth fawr i academydd ‘’Rhagorol’’ Prifysgol Aberystwyth

Yr athro Michael Woods
20 Mai 2025
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn un o'r anrhydeddau mwyaf ym maes daearyddiaeth ar ôl cael ei wneud yn Gymrawd er Anrhydedd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mae'r Athro Michael Woods, sy’n arbenigo mewn daearyddiaeth wledig a gwleidyddol, wedi derbyn y wobr i gydnabod ei wasanaeth i ddaearyddiaeth.
Ffurfiwyd y Gymdeithas ym 1830 er mwyn “hyrwyddo gwyddoniaeth ddaearyddol” ac mae heddiw’n datblygu ac yn cefnogi ymchwil, ymgysylltu â’r cyhoedd a dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.
Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn rhan o gyfres o wobrau mawreddog y Gymdeithas, sy'n cydnabod llwyddiannau arloesol mewn ymchwil ddaearyddol, gwaith maes ac alldeithiau, addysgu, polisi, ymarfer proffesiynol ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Ymhlith enillwyr blaenorol ei medalau a’i gwobrau mae’r naturiaethwr Alfred Russell Wallace, yr anturiaethwraig Freya Stark a’r darlledwr Syr David Attenborough.
Wrth glywed y newyddion am ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd yr Athro Woods: “Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol wastad wedi bod yno drwy gydol fy ngyrfa. Rwyf wedi elwa cymaint o fod yn rhan ohoni ac wedi bod yn falch o gyfrannu at ei gwaith yn hwyluso cyfnewid academaidd a hyrwyddo daearyddiaeth. Rwy’n falch iawn o dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd a pharhau i gefnogi’r Gymdeithas.”
Ymunodd yr Athro Woods â Phrifysgol Aberystwyth ym 1996. Mae’n Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Gyfarwyddwr Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).
Mae wedi derbyn dau Grant Uwch nodedig gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, GLOBAL-RURAL (2014-19) a Rural-Spatial-Justity (2024-29), gan archwilio globaleiddio mewn ardaloedd gwledig a chysylltiadau rhwng anfodlonrwydd gwledig a gwleidyddiaeth aflonyddgar.
Mae'n Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhwng 2014 a 2016 roedd yn aelod o Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Cymru o Gyllid Myfyrwyr a Chyllid Addysg Uwch.
Dywedodd yr Athro Joe Smith, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol: “Mae ein Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn nodi cyfraniadau eithriadol i’r Gymdeithas a/neu ddaearyddiaeth dros gyfnod hir o amser.
“Mae’r Athro Michael Woods yn ysgolhaig rhagorol mewn daearyddiaeth wledig a gwleidyddol sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar ddatblygiadau polisi cymdeithasol ac economaidd yn y cymunedau lle mae wedi byw a gweithio drwy gydol ei yrfa. Mae ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd o’r Gymdeithas yn arwydd o’r gydnabyddiaeth eang o’i wasanaeth ymroddedig.”