Anrhydeddu daearyddwr am ymchwil ac addysgu rhagorol

Enwogodd Dr Cerys Jones o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Ddaear yn Brifysgol Aberystwyth y Wobr Eilir Hedd Morgan, a gynhelid gan y Coleg Cymraeg.
11 Awst 2025
Mae daearyddwr dawnus o Aberystwyth wedi derbyn gwobr am ei chyfraniad rhagorol i ymchwil wyddonol ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyflwynwyd Gwobr Eilir Hedd Morgan i Dr Cerys Jones gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sefydlwyd y wobr flynyddol er cof am Dr Eilir Hedd Morgan, ysgolhaig uchel ei barch a fu farw yn 2013 yn 29 mlwydd oed.
Mae’n cydnabod cyfraniad rhagorol academydd ifanc at ymchwil arloesol ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes gwyddoniaeth.
Graddiodd Dr Cerys Jones gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg yn 2008.
Aeth ymlaen i gwblhau PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Addysgu Cyfrwng Cymraeg gan y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.
Ers 2013, mae hi wedi gweithio fel darlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, gan addysgu’n helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Jones:
"Hoffwn ddiolch i deulu Eilir Hedd ac i’r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd hwn. Mae’r wobr yn cydnabod blaengarwch o ran ymchwil ac addysgu ym maes y Gwyddorau, felly mae’n fraint derbyn cydnabyddiaeth am fy nghyfraniad yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Dwi’n angerddol dros roi’r profiad gorau i bob myfyriwr er mwyn sicrhau eu bod yn magu sgiliau hanfodol a’r gallu i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg ym maes y gwyddorau.”
Cyflwynwyd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ar 6 Awst 2025.