Lansio arolwg ar fusnesau cefn gwlad Cymru
Y Stryd Fawr yn y Drenewydd, Powys
06 Tachwedd 2025
Mae tîm o academyddion a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwil newydd i gyflwr busnesau cefn gwlad yng Nghymru.
Gyda chyllid gan lywodraeth y DU, mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae busnesau gwledig yn ymateb i’r heriau cyfoes – yn amrywio o ailadeiladu ar ôl y pandemig, a’r amgylchiadau masnachu cyfnewidiol, i newidiadau yn arferion busnesau ac ymddygiad cwsmeriaid.
Y nod yw creu darlun cliriach o’r pwysau unigryw sy’n wynebu mentrau gwledig, a’u cymharu â’r rhai a wynebir gan fusnesau trefol.
Mae’r prosiect yn rhan o fenter Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol y Gymru Wledig. Dan arweinyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, mae’r fenter yn cynnwys prifysgolion yng Nghymru yn cydweithio â busnesau, cyrff y trydydd sector, cymunedau, a llunwyr polisi, i ddod o hyd i atebion i’r heriau sy’n wynebu cymunedau cefn gwlad Cymru.
Dywedodd Dr Ellen Hjort, sy’n ymchwilydd ar y prosiect:
"Mae gennym dystiolaeth dda am yr heriau sy’n wynebu busnesau, ond yn aml nid yw cefn gwlad Cymru wedi’i chynrychioli’n dda yn y data cenedlaethol. Hoffem ddeall sut brofiad yw’r heriau hyn i fusnesau cefn gwlad yn benodol, a sut maent yn ymdrin â nhw.
"Ein gobaith yw y bydd hyn o gymorth i lunwyr polisïau yn y Senedd ac yn San Steffan, ac i asiantaethau datblygu busnes, er mwyn llunio cymorth pwrpasol i’r Gymru wledig."
Mae’r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o themâu, gan gynnwys addasu tuag at sero net, patrymau cyflogaeth a busnes tymhorol, ac effaith ar y gymuned. Mae hefyd yn adeiladu ar waith blaenorol y Bartneriaeth (LPIP) drwy ofyn i fusnesau beth mae twf yn ei olygu iddyn nhw a sut maen nhw’n cyfrannu at les eu cymuned leol.
Bydd yr arolwg ar agor tan 21 Rhagfyr 2025 ac mae’n gwahodd ymatebion gan fusnesau sy’n gweithredu ar Ynys Môn, yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.
Bydd cyfle i’r holl fusnesau sy’n cymryd rhan ennill pecyn cymorth busnes.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ymuno ag Antur Cymru i ddosbarthu’r arolwg ac i gynnig cymhellion iddynt i gymryd rhan.
Dywedodd Bronwen Raine, Rheolwr- Gyfarwyddwr Antur Cymru:
"Mae busnesau’n rhyfeddol o bwysig i’r cymunedau y maen nhw’n rhan ohonynt, yn cynnig cyflogaeth, nwyddau a gwasanaethau a chymryd rhan ym mywyd y gymuned. Mae’r arolwg hwn yn gyfle gwych i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig i fusnesau a sut y gallwn ni eu helpu i gael yr effeithiau hyn ar y gymuned. Drwy wneud hyn rydyn ni hefyd yn awyddus i gynnig cymhellion gwerthfawr fel gweithdai, mannau cyfarfod neu hyfforddiant, i ddiolch i bobl am gymryd rhan."
Os oes gennych chi fusnes yng nghefn gwlad Cymru, gallwch helpu i lunio polisi a chymorth yn y dyfodol drwy lenwi’r holiadur:
Fersiwn Cymraeg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/arolwg-busnes-cymru-wledig-2025
Fersiwn Saesneg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/rural-wales-business-survey-2025
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â
Dr Ellen Hjort (elh103@aber.ac.uk)
neu
Dr Lucy Baker (lub59@aber.ac.uk)
AU27325