Prosiect drôn gwerth £2.5m i daclo malaria yn Affrica

Mae dronau yn cael eu defnyddio i ganfod cynefinoedd dyfrol y mae mosgitos yn eu defnyddio i fridio.
29 Rhagfyr 2025
Bydd dronau a deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio mewn ymdrech newydd gwerth £2.5 miliwn a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth i atal malaria rhag datblygu mewn ardaloedd yn Affrica, gyda chyllid gan y Gates Foundation.
Malaria yw un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dinistriol Affrica, gan achosi cannoedd o filoedd o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn.
Bydd prosiect ymchwil rhyngwladol newydd yn Zanzibar, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn targedu cynefinoedd dyfrol larfâu mosgito cyn iddynt aeddfedu.
Bydd y prosiect yn manteisio ar y dechnoleg drôn, lloeren a deallusrwydd artiffisial diweddaraf i helpu i ganfod y safleoedd hyn yn fwy effeithiol. Mae'n adeiladu ar lwyddiant mewn prosiectau blaenorol a oedd yn defnyddio ffonau clyfar a dronau.
Mae'r fenter yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, arbenigwyr iechyd cyhoeddus, a rhanddeiliaid cymunedol i ddatblygu strategaethau cynaliadwy, a arweinir yn lleol ar gyfer rheoli mosgitos, ac wedi’i chefnogi gyda chyllid gan y Gates Foundation.
Bydd y tîm ymchwil yn goresgyn cyfyngiadau mapio confensiynol trwy ddefnyddio dronau sydd â synwyryddion uwch - gan gynnwys delweddu ger-is-goch a thermol - i fynd i'r afael â heriau megis dŵr wedi'i guddio gan lystyfiant trwchus. Bydd delweddau lloeren hefyd yn cael eu defnyddio i fapio cyrff dŵr mwy. Bydd y cyfuniad o'r technolegau hyn yn galluogi mapio cynefinoedd mosgitos dros ardal fawr heb fod angen gwaith maes helaeth.
Bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei hyfforddi i ddadansoddi'r delweddau a dod o hyd i fannau bridio mosgitos yn gywir, hyd yn oed mewn amgylcheddau cymhleth neu gudd megis caeau reis neu gorsydd gyda llystyfiant dyfrol trwchus neu orchudd algâu.
Bydd meddalwedd allweddol a ddatblygir gan y prosiect yn ffynhonnell agored, gyda'r nod yn y pen draw o greu model trosglwyddadwy y gellir ei ehangu ar gyfer rhanbarthau â phroblemau malaria ledled y byd.
Meddai Dr Andy Hardy, prif ymchwilydd o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
"Mae'r prosiect hwn yn ailddyfeisio dull o reoli mosgitos mewn ymgais i fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf dwys Affrica Is-Sahara. Trwy ddefnyddio dronau, delweddau lloeren, a DA, gallwn fapio tiroedd bridio yn gyflym ac yn fanwl gywir, gan wneud ymyriadau yn fwy penodol ac effeithiol.
"Bydd ein ffocws ar ecoleg cynefinoedd mosgitos a chydweithio â chymunedau lleol yn helpu i adeiladu model cynaliadwy, y gellir ei ehangu, a allai wasanaethu fel glasbrint ar gyfer rheoli malaria ledled y byd."

Delwedd drôn o gynefin mosgito yn Stone Town, Zanzibar
Yn ogystal ag arloesedd technolegol, bydd y prosiect yn buddsoddi mewn meithrin cyswllt â’r gymuned, er mwyn goresgyn unrhyw bryderon neu wrthwynebiad i'r technolegau newydd, ac i hyfforddi pobl mewn dulliau o ddileu larfa mosgitos cyn iddynt ddod allan o'r dŵr wedi aeddfedu.
Bydd y prosiect tair blynedd yn creu pecyn cymorth digidol i symleiddio gweithrediadau rheoli mosgitos. Bydd yn cynnwys dangosfwrdd canolog i reolwyr gynllunio a goruchwylio gweithgareddau, ynghyd ag ap ffôn clyfar a fydd yn helpu staff maes i fapio, chwistrellu a monitro tasgau.
Bydd y system yn argymell y ffordd fwyaf effeithiol o fapio ardal yn seiliedig ar dirwedd a chyllideb ac yn cynnwys canllawiau i gefnogi gweithredu cyson ac effeithiol.
Dywedodd Dr Shija Joseph Shija o Raglen Dileu Malaria Zanzibar sy'n cydweithio ar y prosiect:
"Mae Zanzibar wedi gwneud cynnydd aruthrol yn y frwydr yn erbyn malaria, ond rydym yn parhau i wynebu'r her barhaus o safleoedd bridio mosgitos sy'n aml yn anodd eu canfod a'u rheoli. Mae'r fenter newydd hon gwerth £2.5 miliwn, wedi'i harwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth y Gates Foundation, yn gam pwerus ymlaen yn ein hymdrechion i ddileu malaria o'n hynysoedd.
"Rydym yn arbennig o galonogol y bydd yr offer a'r feddalwedd a ddatblygir trwy'r prosiect hwn yn ffynhonnell agored. Mae hyn yn golygu y bydd Zanzibar ymhlith y rhanbarthau cyntaf yn fyd-eang i elwa o fodel cwbl drosglwyddadwy, sy'n cael ei yrru gan ddata a all gefnogi cynllunio, monitro a gwneud penderfyniadau amser real wrth reoli ffynonellau larfaol."
Mae partneriaid eraill ar y prosiect yn cynnwys Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl, Sefydliad Iechyd Ifakara yn Tanzania, a Zzapp Malaria.