Prosiect newydd â’r nod o gynyddu cyflogaeth ymhlith pobl anabl

Dr Maria Plotnikova, Dr Emma Sheppard, Dr Yvonne Ehrstein
05 Mai 2026
Trawsnewid y ffordd y caiff pobl anabl eu recriwtio, eu cefnogi a'u cadw mewn gwaith yw nod menter newydd dan arweiniad academyddion o Brifysgol Aberystwyth.
Bydd y prosiect yn dwyn ynghyd mentrau bach a chanolig, sefydliadau busnes, a phartneriaid yn y sector cyhoeddus o bob cwr o Gymru i ystyried sut y gall cyflogwyr gael gwell cefnogaeth i greu gweithleoedd mwy cynhwysol.
Mae pobl anabl a phobl â salwch cronig yng Nghymru yn wynebu risg anghymesur o ddiweithdra, gyda chyfraddau uwch o hawliadau ar gyfer budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd nag mewn sawl rhan o Loegr. Ond mae camsyniad cyffredin nad oes gan bobl anabl y sgiliau, y cymwysterau na’r uchelgais i weithio.
Mae Dr Emma Sheppard yn Ddarlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd:
“Yn aml iawn, mae pobl anabl fel fi yn cael eu trin fel pe baent yn broblem i’w datrys, ac mae polisïau’n tueddu i ganolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag ar gydnabod a chael gwared ar y rhwystrau strwythurol sy’n bodoli o fewn systemau cyflogaeth. Mae’r prosiect hwn yn newid y sgript honno; rydym am ofyn i gyflogwyr beth sydd ei angen arnynt i greu cyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy i bobl anabl a phobl â salwch cronig yng Nghymru.”
Un o nodau’r fenter yw sicrhau bod cyflogwyr llai yng Nghymru yn rhan o’r trafodaethau ynghylch cyflogaeth gynhwysol, gan adlewyrchu eu rôl bwysig yn economi Cymru.
Mae Dr Maria Plotnikova yn Ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd:
“Mae’r rhan fwyaf o’r canllawiau a’r cymorth sy’n ymwneud â chyflogaeth gynhwysol wedi’u datblygu gyda sefydliadau mwy mewn golwg. Yn aml, nid oes gan fusnesau llai gapasiti pwrpasol o ran Adnoddau Dynol ac iechyd galwedigaethol, ac eto mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yng Nghymru yn fusnesau bach. Mae’r prosiect hwn yn gyfle i wrando, dysgu a dechrau datblygu dulliau sy’n adlewyrchu realiti gweithleoedd llai yng Nghymru, gan helpu i gau’r bwlch cyflogaeth anabledd mewn ffyrdd sy’n ymarferol ac yn gyraeddadwy.”
Bydd tîm y prosiect yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb yn wyneb yn y gogledd, y canolbarth a’r de, gan ddod â chyflogwyr lleol, sefydliadau busnes, awdurdodau lleol a siambrau masnach ynghyd.
Bydd cyfranogwyr yn trafod yr hyn sy'n helpu neu’n rhwystro pobl anabl rhag cael eu cyflogi ar hyn o bryd, yn ogystal ag unrhyw fylchau wrth ddeall agweddau cyflogwyr a’r ffyrdd y maent yn gwneud penderfyniadau.
Bydd y sesiynau hefyd yn ystyried y potensial ar gyfer rhwydwaith ledled Cymru, dan arweiniad cyflogwyr, i helpu i gynyddu cyflogaeth ymhlith pobl anabl.
Mae'r tîm ymchwil yn awyddus i glywed gan fusnesau a sefydliadau ledled y wlad sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiadau rhwydweithio yn Ynys Môn, Aberystwyth neu Abertawe yn ystod mis Mai a mis Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://www.linkedin.com/company/disability-employment-wales.
Ychwanegodd y darlithydd Cymdeithaseg Dr Yvonne Ehrstein:
“Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu lle ar gyfer sgyrsiau gonest ac adeiladol, a’u defnyddio fel man cychwyn ar gyfer newid y ffordd y caiff cyflogaeth gynhwysol ei dychmygu a’i darparu yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd y gwaith hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer newid diwylliannol a strwythurol parhaol — gan gefnogi dyfodol lle mae pobl anabl yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu mewn gwaith ledled Cymru.”
Ariennir y prosiect gan raglen AberCollab y Brifysgol.