Ben Lake AS yn gweld gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth wrth frwydro yn erbyn malaria

O'r chwith i'r dde: Dr Niall McKeown (Prifysgol Aberystwyth), Chris Walker (Uwch Reolwr Eiriolaeth y DU, Malaria No More UK), yr Athro Angela Hatton (Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi, Prifysgol Aberystwyth), Ben Lake AS, Dr Andy Hardy (Prifysgol Aberystwyth).
11 Awst 2026
Mae’r AS dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu am eu hymchwil sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn malaria.
Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, clywodd Mr Lake am sut mae gwyddonwyr yn darganfod safleoedd bridio mosgitos gan ddefnyddio'r technolegau drôn, lloeren a deallusrwydd artiffisial diweddaraf.
Mae prosiect rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio dronau sydd â synwyryddion uwch i ddarganfod safleoedd bridio mewn amgylcheddau cymhleth yn Zanzibar.
Bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei hyfforddi i ddadansoddi'r delweddau a dod o hyd i fannau bridio mosgitos yn gywir, hyd yn oed mewn amgylcheddau cymhleth neu gudd megis caeau reis neu gorsydd gyda llystyfiant dyfrol trwchus neu orchudd algâu.
Clywodd Ben Lake AS hefyd gan academyddion sy'n datgloi cyfrinachau mosgitos sy'n brathu yn ystod oriau golau dydd.
Maent yn ymchwilio i eneteg y prif fosgito yn Zambia sy’n cario malaria, y canfuwyd ei fod yn brathu yn yr awyr agored ac ar ôl iddi wawrio, pan nad yw pobl wedi’u hamddiffyn gan fesurau rheoli confensiynol.
Nod y gwyddonwyr yw penderfynu a yw'r gwahanol ymddygiadau brathu hyn yn digwydd o fewn un boblogaeth o fosgitos neu a ydynt yn gysylltiedig â grwpiau genetig arbennig.
Disgwylir i’w canfyddiadau helpu i gryfhau strategaeth rheoli malaria cenedlaethol Zambia.
Ymunodd yr elusen eiriolaeth, Malaria No More UK, â'r AS ar ei ymweliad i esbonio sut mae ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach i reoli a dileu malaria yn ystod ein hoes ni.
Fe wnaethant siarad â Ben Lake AS am sut roedd offer gan gynnwys rhwydi gwely, cyffuriau a brechlynnau wedi helpu i wneud cynnydd sylweddol wrth leihau nifer yr achosion a’r marwolaethau o ganlyniad i falaria dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae'r grŵp yn dweud y gallai datblygiadau newydd, megis y rhai a arloeswyd gan Brifysgol Aberystwyth, roi terfyn ar un o glefydau hynaf a mwyaf marwol y byd o'r diwedd.
Ond mae gwyddonwyr wedi rhybuddio, heb fuddsoddiad parhaus yn y frwydr yn erbyn malaria, na ellir gwarantu cynnydd parhaus.
Dywedodd yr AS dros Geredigion Preseli, Ben Lake:
“Mae’n wych gweld bod gwaith arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwneud cyfraniad a allai helpu i roi diwedd ar falaria yn ein hoes a rhoi'r cyfle i filiynau o blant fyw’r bywyd y maen nhw'n ei haeddu. Mae’n galonogol gweld bod ymchwilwyr, arbenigwyr iechyd cyhoeddus, a rhanddeiliaid cymunedol yn gallu dod at ei gilydd i ddatblygu strategaethau dan arweiniad lleol ar gyfer clefydau mor ddinistriol.
“Mae toriadau i gyllid datblygu ledled y byd yn peryglu'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â malaria. Mae angen i ni barhau i fuddsoddi mewn offer malaria, a'r ymchwil sy'n creu cenhedlaeth newydd o arloesiadau, megis gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ffyrdd arloesol y mae ymchwil yn cael ei chynnal i wella ymchwil dan arweiniad y DU, gan ddefnyddio cyfuniad o nodweddu genetig a dronau, technolegau lloeren a deallusrwydd artiffisial, yn cynnig y potensial i drawsnewid sut mae’r cynefinoedd hyn yn cael eu canfod, eu dadansoddi a’u rheoli. Bydd hyn yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer rheoli malaria a’i ddileu."
Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae ein rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob cwr o'r byd i newid bywydau er gwell: meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a'r byd ehangach.
"Roedd yn bleser croesawu Ben Lake AS i'r Brifysgol i ddangos iddo sut y gallai ymchwil arloesol yma yn Aberystwyth drawsnewid y dull o reoli malaria a chyfrannu at roi terfyn ar y clefyd hwn."
Dywedodd Chris Walker, Uwch Reolwr Eiriolaeth y DU yn Malaria No More UK:
"Mae'r DU yn uwch-bŵer ym maes gwyddoniaeth malaria, ac mae'r wyddoniaeth honno yn achub bywydau ledled y byd ac yn hybu swyddi ym maes gwyddor bywyd ac economi Cymru. Gallwn fod yn falch o'n hanes yn datblygu'r offer hyn a buddsoddi yn y cyflenwad i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
"Mae heriau cynyddol megis cyllid cyfyngedig, ymwrthedd i gyffuriau a newid yn yr hinsawdd yn peryglu’r cynnydd hanfodol a wnaed i roi terfyn ar falaria. Gyda nifer y marwolaethau a’r achosion blynyddol yn dal i fod yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig ac yn dal i gynyddu, mae'r clefyd yn effeithio’n fawr ar deuluoedd, cymunedau a gwledydd ac yn bygwth diogelwch iechyd byd-eang.
"Mae angen ymdrech o'r newydd i sicrhau bod y frwydr yn erbyn malaria yn ôl ar y trywydd iawn ac mae cefnogaeth gyfunol gwyddonwyr lleol a hyrwyddwyr seneddol megis Ben mor bwysig ag erioed os ydym am gynnal gwaith caled y degawdau diwethaf. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi gwyddoniaeth y DU a chymryd y cam nesaf fel y gallwn roi terfyn ar falaria yn ystod ein hoes ni."