Cymorth Gyda'r Mapiau Ar-Lein

Dod o hyd i leoliad

  1. Dewiswch y categori yr ydych ei eisiau o’r ddewislen (e.e. Adrannau Academaidd) a bydd y ddewislen yn ehangu. Caiff y lleoliadau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor.
  2. Dewiswch y lleoliad yr ydych yn chwilio amdano a bydd pin yn ymddangos ar y map.
  3. I gael rhagor o wybodaeth neu i rannu’r lleoliad dewiswch y pin ei hun a bydd swigen yn ymddangos. (Gallwch rannu’r lleoliad trwy ddewis un o’r eiconau).

Awgrymiadau

  • Os na allwch ddod o hyd i’r lleoliad yr ydych yn chwilio amdano efallai y cewch hyd iddo trwy ddewis y ddolen ‘Mwy o Leoliadau’ a fydd yn ymddangos ar waelod y rhestr o leoliadau ar gyfer y categori. 
  • Gallwch weld yr holl binnau ar gyfer categori penodol trwy ddewis ‘Dangos yr Holl Binnau’. Bydd hyn yn eich galluogi i weld yr holl leoliadau ar gyfer y categori hwn (e.e. lleoliadau’r holl Adrannau Academaidd).

Symud o Amgylch y Map

Gan ddefnyddio dyfais bwyntio (neu’ch bys os oes gennych sgrin gyffwrdd) gallwch symud y map o gwmpas. Mae dwy ffordd o chwyddo’r map;

  1. Defnyddio’r eiconau plws a minws yng nghornel chwith uchaf y map,
  2. Defnyddio’r dull arferol o chwyddo ar gyfer eich dyfais (e.e. yr olwyn sgrolio ar lygoden neu binsio ar sgrin gyffwrdd).

Map a Lloeren

Gallwch newid rhwng y map safonol a’r map lloeren trwy ddefnyddio’r eicon yng nghornel dde uchaf y map.

Adborth

Os ydych yn gweld unrhyw gamgymeriadau neu lleoliadau coll ar y mapiau yma, cysylltwch a Thim y We gan ddefnyddio y manylion isod.