Llyfryn Sialens y Gymraeg

Crëwyd yr adnodd hwn ar y cyd â phobl ifanc o ganolbarth Cymru, a fu’n gweithio gyda ymchwilwyr o Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth. Bu grŵp cynghori o bobl ifanc, ynghyd â sawl grŵp ymchwil, yn rhan o’r broses ddylunio, gan sicrhau bod eu syniadau a’u profiadau wrth wraidd y gwaith.
Prif nod y prosiect oedd rhoi cyfle i bobl ifanc feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg ac adnabod ffyrdd y gallant ddefnyddio mwy o’u Cymraeg mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw.
Amcanion y prosiect oedd:
-
Rhoi mwy o lais i bobl ifanc drwy eu cynnwys yn uniongyrchol yn y gwaith ymchwil.
-
Helpu pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn ymchwil a meithrin sgiliau newydd.
-
Casglu barn a phrofiadau pobl ifanc am y Gymraeg heddiw, a datblygu syniadau i helpu mwy o bobl i’w defnyddio yn y dyfodol.
-
Creu adnodd defnyddiol gyda phobl ifanc, ar gyfer disgyblion, ysgolion ac eraill.
-
Cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
-
Cefnogi’r weledigaeth o Gymru fwy cyfartal, gyda diwylliant cryf ac iaith Gymraeg fywiog.
Yn y pen draw, bwriad yr adnodd hwn yw sicrhau bod syniadau pobl ifanc am ddefnyddio mwy o Gymraeg yn cael eu clywed a’u gweld. Trwy rannu’r syniadau hyn, gall pobl ifanc gefnogi ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd sy’n berthnasol ac yn hwyl iddyn nhw.
