Tîm Gwasanaethau Eiddo

Mae'r Tîm Gwasanaethau Eiddo yn gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol ar adeiladau’r Brifysgol mewn ymateb i sefyllfaoedd penodol a gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw.  Maent yn sicrhau bod y campysau a'r adeiladau yn parhau i fod yn addas ar gyfer dysgu ac ymchwil effeithiol.

Gellir cysylltu â'r tîm trwy e-bost ar cahstaff@aber.ac.uk

Cyfrifoldebau Cynnal a Chadw yr Adran Ystadau

Mae gan yr Adran Ystadau gyllideb flynyddol ar gyfer cynnal ac atgyweirio’r adeiladwaith presennol, y prif wasanaethau, y ffyrdd a’r dirwedd.  Ni fwriedir iddo ddarparu ar gyfer gosod a/neu gynnal a chadw peiriannau ac offer adrannol arbenigol.  Mae'r ddogfen hon yn mynd ati i egluro’r cyfrifoldebau ariannol am waith atgyweirio/cynnal a chadw adeiladau ac offer sydd rhwng yr Adran Ystadau ac adrannau unigol academaidd ac anacademaidd.

Mae'r rhestr isod yn rhoi canllaw i’r meysydd o gyfrifoldebau. Fodd bynnag, nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr. Bydd unrhyw anghydfod neu anghytundeb yn cael ei ddatrys gan y Cyfarwyddwr Ystadau, Adnoddau a Llety, sy'n gyfrifol am yr holl wariant o gyllideb Ystâd y Brifysgol, a’r Pennaeth adrannol perthnasol.

Gall gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio gael ei wneud gan staff mewnol neu gontractwyr allanol.  Er y bydd yr Adran Ystadau fel arfer yn gwneud gwaith yn fewnol, ar adegau pan fo angen galw ar gontractwyr allanol i wneud y gwaith sy’n daladwy gan adrannau, bydd cyfanswm y gost yn cael ei ailgodi.  Bydd unrhyw waith yr adroddwyd amdano ond ni chanfuwyd nam yn arwain at ad-daliad am amser y gweithwyr. 

Cyfrifoldebau Cyllideb yr Adran Ystadau  Cyfrifoldebau Cyllideb Adrannol
  • Adeiladwaith
  • Gwresogi adeiladau & offer awyru
  • Atgyweirio llenni a bleindiau
  • Drysau a dodrefn drysau
  • Draenio
  • Goleuadau argyfwng
  • Drysau a ffenestri allanol
  • Arwyddion allanol a statudol
  • Larymau tân
  • Offer tân (sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth)
  • Gosodiadau trydanol sefydlog (hyd at yr ynysydd ar gyfer offer adrannol)
  • Goleuadau sefydlog
  • Lloriau
  • Olrhain tân i gypyrddau gwyntyllu (ymweliadau ar gyfer gwasanaeth yn unig)
  • Gwydro
  • Tirwedd caled a meddal
  • Dŵr poeth ac oer
  • Lifftiau
  • Prif wasanaethau nwy
  • Rheoli pla
  • Atgyweirio to
  • Y prif gyflenwad dŵr
  • Silffoedd ychwanegol
  • Socedi a chylchedau ychwanegol
  • Cynnal a chadw system aerdymheru
  • Byrddau Duon/byrddau gwyn/hysbysfyrddau (heb fod wedi'u hamserlennu'n ganolog)
  • Bachau côt
  • Llenni, bleindiau a gorffeniadau (newydd)
  • Offer trydanol adrannol
  • Offer tân (cais ychwanegol gan adran)
  • Dodrefn a chlustogwaith
  • Arwyddion mewnol
  • Mân newidiadau (e.e. sinc newydd)
  • Lluniau/clociau ac ati.
  • Cynnal profion dyfeisiadau trydanol cludadwy (PAT).
  • Darparu allweddi a chloeon ychwanegol
  • Ail-leoli gosodiadau mecanyddol neu drydanol sefydlog
  • Unrhyw ofynion adrannol arbenigol nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod