Miss Ellie Morgan

Miss Ellie Morgan

RBI Systems Manager

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Dechreuodd Ellie weithio yn YBA ym mis Gorffennaf 2022 a chyn hynny bu’n gweithio yn y tîm Cyfleoedd Byd-eang yn y Brifysgol.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Mwynhaodd Ellie ei hamser yn y tîm Cyfleoedd Byd-eang lle’r oedd yn gallu darparu cymorth i fyfyrwyr a oedd yn teithio dramor ar gyfleoedd addysgol byr. Mae’r gefnogaeth y mae’r tîm yn ei rhoi i fyfyrwyr yn wych ac yn ystod ei chyfnod yn yr adran, enillodd lawer o sgiliau newydd y gall eu defnyddio yn ei rôl yn YBA.

Addysg a phrofiad gwaith

Astudiodd Ellie y Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion ac yna bu’n rheoli Tîm Bywyd Preswyl Prifysgol Aberystwyth ar ôl graddio; rôl a gyflawnodd am ddwy flynedd. Symudodd wedyn i rôl newydd o fewn y Tîm Preswylfeydd: Gweinyddwr Prosiect a Chontract, lle bu’n darparu cymorth gweinyddol ar gyfer adnewyddu Prosiect Pantycelyn a chymhwyso contractau preswylfeydd y Brifysgol. Pan ymadawodd y Pennaeth Preswylfeydd yn gynnar yn 2020, cymerodd gyfrifoldeb fel Rheolwr Prosiect a Chontract nes iddi ymuno â'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang ym mis Hydref 2021.

Profiad a gwybodaeth

Mae Ellie wedi ennill llawer o sgiliau a phrofiad yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol gan gynnwys gweinyddu a rheoli contractau, gweinyddu a rheoli prosiectau, yn ogystal â sgiliau TG sy'n hanfodol yn ei rôl bresennol.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae cyfrifoldebau Ellie yn YBA yn cynnwys rheoli prosiect gweithredu dwy system dechnoleg newydd: y system CRM (Rheoli Perthynas Cwsmer) a system Moeseg Ymchwil newydd ar gyfer ceisiadau a chymeradwyaethau moeseg. Mae hi hefyd yn edrych ar sut i gysylltu'r systemau ymchwil â'i gilydd i gynhyrchu adroddiadau awtomataidd.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Ellie wedi mwynhau dod i adnabod cydweithwyr ar draws y Brifysgol dros y chwe blynedd diwethaf, sy'n hynod ymroddedig i ddarparu'r profiad Prifysgol gorau posibl i'n myfyrwyr.