Seminarau Uwchraddedig

Rhwydwaith Ôl-raddedigion Hanes Aberystwyth

Mae hwn yn grŵp lle mae myfyrwyr graddedig o bob disgyblaeth, sy'n gweithio gyda'r gorffennol mewn rhyw ffordd, ym medru dod at ei gilydd i gyfarfod, trafod ac i rwydweithio. Rydym yn cynnal nifer o sesiynau ar ystod eang o bynciau trwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd er mwyn trafod syniadau ymchwil yn ogystal â thrafodaethau gydag academyddion ar bynciau megis sut i gynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a hefyd sut i sicrhau cyllid. Er mwyn oresgyn unigrwydd ysgrifennu, rydym yn trefnu sesiynau 'Cau Dy Ben ac Ysgrifenna!'  mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. Yn ogystal â hyn, rydym yn aml yn cynnal diodydd ôl-raddedig er mwyn i bobl dod i nabod ei gilydd mewn lleoliad llai ffurfiol. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer sesiwn yr hoffech ei weld, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.

 

Er bod y rhwydwaith wedi'i leoli yn yr adran Hanes a Hanes Cymru, mae croeso mawr i fyfyrwyr ôl-raddedig o adrannau eraill sydd â diddordeb mewn hanes i fynychu ein digwyddiadau. Dewch o hyd i'r rhwydwaith ar Facebook (yma) neu gyrrwch neges at y cynullwyr er mwyn cael eich ychwanegu i'r rhestr e-bostio.

 

Ar hyn o bryd mae Rhwydwaith Ôl-raddedigion Hanes Aberystwyth yn cael ei rhedeg gan Caitlin Naylor (cen3), Kiri Kolt (ksk3) a Bethan Siân Jones (bsj1).