Prosiectau Ymchwil yr Adran

Cyfraith Breifat a Chymdeithas Bentrefol yr Oesoedd Canol: Achosion Personol mewn Llysoedd Maenorydd, rhwng tua 1250 a thua 1350

Fe ddechreuodd y prosiect hwn, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn Hydref 2006 a rhedeg am dair blynedd. Golygodd ymchwilio i’r berthynas ddwyffordd sy’n bodoli rhwng y gyfraith ar y naill law, a newid economaidd a chymdeithasol ar y llall. Archwiliodd yn benodol y cynnig fod rheolau a pheirianwaith cyfraith sifil wedi dylanwadu’n sylweddol ar barodrwydd unigolion i neilltuo adnoddau ar gyfer gweithrediadau a chytundebau o bob math, ac wedi llywio ymddygiad tuag at bobl ac eiddo eraill. 

Seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol

Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn rhedeg am dair blynedd o 1 Medi 2009 ac wedi’i leoli yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (Aberystwyth – Bangor). Nod y prosiect yw defnyddio’r ffynhonnell hon nas defnyddiwyd ddigon i archwilio agweddau ar gymdeithas ac economi’r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth, crefydd a mynegi hunaniaeth mewn ffyrdd newydd.

Cymru Fynachaidd

Bwrwyd tai crefydd Cymru’r Oesoedd Canol i’r cysgod  ers tro gan eu cymdogion mwy niferus, a mwy cyfoethog yn gyffredinol, a gafodd fel arfer fwy o sylw mewn dogfennau, i’r dwyrain o Glawdd Offa. Felly, er mwyn lleoli lle Cymru ar fap mynachaidd Ewrop yn fwy cadarn, nod y prosiect mawr a newydd hwn yw sefydlu hanes mynachaidd cynhwysfawr o Gymru’r Oesoedd Canol. Bydd canfyddiadau’r prosiect ar gael i academyddion a myfyrwyr, a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol, yn electronig ac mewn print.

Gwreiddiau Diwylliant Torfol Modern: Hamdden Ewropeaidd o Safbwynt Cymharol 1660

Cychwynnwyd y prosiect hwn drwy weithdy ymchwiliol a ariannwyd gan Sefydliad Gwyddoniaeth Ewrop ac a gynhaliwyd yng Nghymru ym Medi 2010. Y nod yw hwyluso cysylltiadau rhwng haneswyr ac academyddion eraill sy’n gweithio ym maes hamdden, gan arwain at sefydlu agenda ymchwil drawswladol a rhyngddisgyblaethol newydd ar hanes diwylliant hamdden Ewrop o’r cyfnod modern cynnar i’r cyfnod modern.

Prosiect y Porthladdoedd a’r Trefi Gwyliau

Daeth astudio trefi gwyliau glan-môr yn rhan o brif ffrwd hanes trefol yn ystod y degawdau diwethaf. Mae’r prosiect hwn, sy’n derbyn cyllid gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Cymru, yn cynrychioli’r cam cyntaf mewn astudiaeth ehangach o drefi gwyliau Cymru ac ardal Môr Hafren. Canolbwyntiwyd yn wreiddiol ar Aberystwyth, Dinbych-y-Pysgod ac Abertawe, a’r cyfnod 1750-1914. Mae cynnyrch y prosiect yn cynnwys llyfryddiaeth ar y we ac amrywiaeth o gyhoeddiadau ymchwil.

Aberystwyth a Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919

Gyda chanmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn digwydd ym mis Tachwedd 2018, roedd yr Adran Hanes a Hanes Cymru wrth ei bodd yng ngwanwyn 2018 i gael grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect a fyddai’n galluogi myfyrwyr i weithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i archwilio, dehongli a chadw straeon cymuned Aberystwyth fel yr oedd yn ystod y rhyfel gan mlynedd yn ôl.

Rhedodd y prosiect, Aberystwyth a Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919, rhwng Mai 2018 a Thachwedd 2019. Archwiliodd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl a chymunedau Aberystwyth trwy ymdrechion cydweithredol gwirfoddolwyr, archifau lleol, y brifysgol, cymdeithasau hanes lleol, ysgolion, a grwpiau perfformio a chelf. Bu'r grwpiau hyn yn ymwneud â chofnodion amser rhyfel, llythyrau, papurau newydd, ffotograffau, cerddoriaeth, cofebion rhyfel a hanesion personol a gedwir yn sefydliadau ein  partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion ac Amgueddfa Ceredigion, yn ogystal ag yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth a lleoedd cyhoeddus yn yr ardal. Cipiodd a dehonglodd dros 70 o fyfyrwyr a gwirfoddolwyr lleol yr hanesion cymunedol hyn mewn gweithgareddau, arddangosfeydd, perfformiad ac adnoddau ar-lein.

Hyfforddwyd y 3ydd- 6ed Fataliwn Catrawd Sir Gaer yn Aberystwyth cyn cael eu hanfon i Ffrainc.  Ffotograff o swyddogion y Gatrawd a myfyrwragedd Coleg ar y traeth ger Neuadd Alexandra, o gasgliad Tom James, trwy gwrteisi Jane Bradly.

Aberystwyth a Rhyfel: Profiad, Effaith, Etifeddiaeth, 1914-1919

Adroddiad Gwerthuso Prosiect (pdf)