Cwestiynau a holir yn aml

C. Mae fy nheulu/gwarchodwyr yn awyddus i ddod i’r Diwrnod Blasu hefyd. Ydy hyn yn bosibl?

A. Croeso mawr iddyn nhw! Mae’r Diwrnod Blasu ei hun ar gyfer myfyrwyr yn unig, ond bydd yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn cynnig nifer o weithgareddau i’ch rhieni/gwarchodwyr yn ystod y prynhawn. 

C. Pryd dylwn gyrraedd?

A. Awgrymwn eich bod yn ceisio cyrraedd Aberystwyth mewn digon o bryd i ddod i’r Brifysgol erbyn 12.30.

C. Pryd fydd y Diwrnod Blasu'n gorffen?

A. Bydd y Diwrnod Blasu yn parhau drwy’r dydd ac yn cynnwys gweithgaredd fore Mercher y 29ain hefyd. Bydd modd i chi wedyn ymuno â gweithgareddau’r Diwrnod Agored.

C. Beth am lety?

Os byddwch chi’n cofrestru ar gyfer y Diwrnod Agored, gallwch gael llety am ddim yn y Brifysgol. Gwnewch yn siwr felly eich bod yn cofrestru ac yn archebu llety.

Am fwy o wybodaeth neu i ddangos diddordeb yn y Diwrnod Blasu, cysylltwch â Rebecca Rock ar history-enquires@aber.ac.uk.