Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r Adran yn un o brif ddarparwyr dysgu cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Mae gennym chwe aelod o staff sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gallu cynnig ystod diddorol o fodiwlau drwy’r Gymraeg sy’n ymwneud â Chymru, Prydain, Ewrop ac America o’r cyfnod canoloesol hyd at heddiw. Gellir bod yn hyblyg iawn wrth ddewis iaith y dysgu a chewch ddewis gradd cyfrwng Cymraeg yn benodol neu ddilyn ambell fodiwl yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob myfyriwr cyfrwng Cymraeg yn cael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg i’w cynghori ynghylch hyn a materion eraill.