Ffurflen Diwrnod Blasu
Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru yn eich gwahodd i Ddiwrnod Rhagflas ar ddydd Gwener 15 Medi
Bydd y Diwrnod Blasu yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiwn arbennig am Hanes yn y Brifysgol, ac yna gyflwyniad am ddefnyddio 'r casgliadau a'r adnoddau. Bydd y grŵp yn mynd ar daith o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol cyn gorffen gyda thaith o amgylch y dref. Gyda'r nos, bydd bwffe ar Gampws Penglais.
I gael gwybod mwy cyn cadw lle, cysylltwch â Rebecca Rock yn rxs@aber.ac.uk.