Ffurflen Diwrnod Blasu

Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru yn eich gwahodd i Ddiwrnod Rhagflas ar ddydd Gwener 15 Medi

Bydd y Diwrnod Blasu yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiwn arbennig am Hanes yn y Brifysgol, ac yna gyflwyniad am ddefnyddio 'r casgliadau a'r adnoddau. Bydd y grŵp yn mynd ar daith o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol cyn gorffen gyda thaith o amgylch y dref. Gyda'r nos, bydd bwffe ar Gampws Penglais.

I gael gwybod mwy cyn cadw lle, cysylltwch â Rebecca Rock yn rxs@aber.ac.uk.

Wrth gyflwyno'r ffurflen archebu hon, rydych chi'n rhoi caniatâd i'ch data gael ei brosesu er mwyn hwyluso logisteg y Diwrnod Blasu, ac i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch yn achos cyflyrau meddygol yn cael eu datgan. Dim ond mewn perthynas â'r trefniadau ar gyfer y digwyddiad hwn y byddwn yn cysylltu â chi. Mae'r data'n cael ei chadw'n ddiogel ac yn hygyrch i'r staff hynny yn yr adran yn unig sydd â chyfrifoldeb penodol am drefniadau Diwrnod Blasu. Gellir cynnal data am hyd at 14 mis i helpu gyda chynllunio mewnol gweithgareddau recriwtio yn y dyfodol.