Adolygiad ar Gynaliadwyedd 2023

Yn rhan o'n hamcanion Cynaliadwyedd ar gyfer 2023, gwnaethom lunio cynllun gweithredu i’r holl feysydd ac amcanion yr oeddem am eu cyflawni yn 2023. Dyma gipolwg ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â thynnu sylw at feysydd a thargedau nad oeddem wedi gallu eu cwblhau.

Trefnwyd ein Cynllun Gweithredu yn ôl y meysydd penodol y canolbwyntiwyd arnynt, ac rydym wedi dilyn y drefn honno yn yr adroddiad hwn, er hwylustod. Bydd yr adolygiad hwn wedyn yn rhan o'n gwaith i bennu ein hamcanion ar gyfer 2024.

Olew palmwydd

  • Rydym wedi cyflwyno system ‘goleuadau traffig’ ar gyfer yr holl gynnyrch pecyn ar y campws gydag arwyddion priodol.
  • Lle mae unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd nad yw’n RSPO, rydym wedi ceisio dod o hyd i ddewisiadau amgen, ac mae hyn yn parhau.
  • Adolygwyd y polisi gan ychwanegu diweddariadau ar gyfer 2024

Lleihau gwastraff bwyd

  • Drwy barhau â’r cynigion 'Pan fo wedi mynd, mae wedi mynd', arbedwyd 9406 eitem o fwyd rhag cael eu taflu i ffwrdd, trwy ostwng pris stoc sy’n nesáu at y dyddiad bwyta.
  • Mae cynnig prydau rhatach a disgowntio prif brydau wedi golygu llai o wastraff bwyd trwy ddefnyddio bwyd mewn prydau a baratowyd drwy ddefnyddio meintiau bach.
  • Mae monitro’r gwastraff bwyd wedi dangos bod 17% yn llai o wastraff bwyd yn y flwyddyn.

Lleihau Eitemau Untro a Ddefnyddir ar y Campws

  • Cyflwynwyd y ffi 25c ar gwpanau, yn ogystal â gwerthu cwpanau cadw, a’u rhoi, i fyfyrwyr a staff er mwyn hyrwyddo defnyddio cwpanau amldro.
  • Mae niferoedd calonogol o staff wedi defnyddio cwpanau cadw, ond y niferoedd yn llai calonogol ymhlith y myfyrwyr.
  • Mae’r holl fwyd mewnol erbyn hyn yn cael ei weini ar lestri tsieni yn y safleoedd lle mae cyfleusterau golchi llestri i’w cael, sef yn y Neuadd Fwyd, Caffi bach a Blas Gogerddan.
  • Does dim pecynnau bach o saws i’w defnyddio ar y campws erbyn hyn.
  • Llwyddwyd i gael llai o becynnu plastig trwy gynnwys hyn yn rhan o'r broses dendro i gyflenwyr.
  • Lansiwyd diwrnod di-blastig yn y safleoedd fis Ebrill, fe’i cynhelir ar raddfa fwy yn 2024

Sero Net

  • Fe’i gwnaethom hi’n ofynnol i’r holl gyflenwyr ymrwymo i Sero Net trwy'r broses dendro er mwyn ein cynorthwyo â’n hallyriannau ‘cwmpas 3’.
  • Roedd yr holl offer newydd a brynwyd yn offer Gradd A o ran defnyddio ynni.
  • Nid oeddem yn gallu cyfrifo’r sefyllfa o ran carbon yn ein bwydlenni ond mae hyn yn dal i fod yn darged ar gyfer 2024
  • Byddwn yn anelu at adolygu'r holl offer i leihau’r ynni a ddefnyddiwn, yn unol â’r cyfalaf sydd ar gael.

 

Arferion a phrynu moesegol

  • Penodwyd cyflenwr coffi lleol o Gymru yn 2023
  • Mabwysiadwyd ‘Bwydlenni dros Newis’ yn ogystal ag ymaelodi â'r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy er mwyn gallu cynnal archwiliad cynaliadwyedd blynyddol i'r adran er mwyn ei gyflwyno i’r archwiliad ‘pobl a'r blaned’.