Gwybodaeth am Gynnyrch Halal

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned amlddiwylliannol, lle mae gan fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr amrywiol gredoau a moeseg grefyddol ac anghrefyddol. Mae Gwasanaethau Croeso Aberystwyth yn ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn bodloni anghenion y gymuned amrywiol hon.

Rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i gig Halal ardystiedig / “o ffynhonnell Halal” ar gyfer gwasanaethau penodol ac eitemau penodol ar y fwydlen er mwyn cydnabod amrywiol anghenion ein cwsmeriaid.

Mae gan lawer o'n siopau ym Mhrifysgol Aberystwyth fwydydd â label Halal.

Gofynnwn yn garedig i fyfyrwyr siarad â ni pan fyddwch yn cyrraedd i Brifysgol Aberystwyth os hoffech chi i ni ddarparu unrhyw beth penodol.

Yn Siop y Myfyrwyr a Sguborfach (ein siop gyfleus ar Fferm Penglais) gwerthir amrywiaeth o nwyddau Halal yn ogystal â chig eidion a chyw iâr Halal fel arfer. Unwaith eto, rydym yn fwy na pharod i archebu unrhyw gynhyrchion penodol yr hoffai’r myfyrwyr i ni geisio cael hyd iddynt. Dyma restr o'r hyn sydd i'w gael yn ein siopau :-

Y Neuadd Fwyd

Mae ein holl fwyd yn cael ei baratoi'n ffres, felly mae modd darparu ar gyfer unrhyw ofynion penodol.

  • Y rhan fwyaf o brydau cyw iâr a'r rhai y dynodir eu bod yn Halal
  • Prydau cig eidion penodol (yn dibynnu ar argaeledd) a'r rhai y dynodir eu bod yn Halal
  • Eitemau brecwast fegan a llysieuol
  • Prydau Halal ar ein bwydlen o fwyd a goginir yn ffres (7 diwrnod yr wythnos)
  • Bwydydd parod
  • Mae dewis fegan a llysieuol dyddiol ar gael fel arfer
  • Bar salad fegan a llysieuol

Siop yr hwb

  • Dewis o Frechdanau
  • Cigoedd Halal wedi'u rhewi (cyw iâr wedi'i ddeisio, brestiau cyw iâr, byrgyrs cig eidion, cig eidion wedi'i ddeisio a briwgig eidion)
  • Nygets cyw iâr wedi'u rhewi Halal a chyw iâr popcorn Halal
  • Nwdls BOL
  • Amrywiaeth o eitemau fegan a llysieuol

Siop Undeb y Myfyrwyr

  • Cigoedd Halal wedi'u rhewi (Byrgyrs cig eidion, cig eidion wedi'i ddeisio, cyw iâr wedi'i ddeisio, brestiau cyw iâr)
  • Dewis o frechdanau Halal
  • Nwdls Ko-lee
  • Dewis o felysion
  • Amrywiaeth o eitemau fegan a llysieuol
  • Bar salad fegan a llysieuol

Caffibach

  • Dewis o frechdanau Halal
  • Amrywiaeth o eitemau fegan a llysieuol

Canolfan y Celfyddydau

  • Prydau cyw iâr Halal dethol
  • Dewisiadau fegan a llysieuol dyddiol

Sylwer fod y rhain yn amodol ar argaeledd gan gyflenwyr

 

 Ein Cod Ymarfer Halal ar gyfer Paratoi Bwyd

Codau ymarfer ar gyfer cynhyrchu a gweini prydau "o ffynhonnell Halal". Bydd unrhyw gig Halal a gyflenwir gan ein cigydd wedi'i ardystio'n Halal a'i labelu â logo Halal.

  • Mae cig Halal wedi'i orchuddio, ei labelu a'i wahanu (o fewn yr un oergell/rhewgell) oddi wrth gynhyrchion cig eraill
  • Mae staff yn golchi eu dwylo cyn paratoi cynhyrchion Halal.
  • Lle bo'n briodol, mae staff yn gwisgo menig tafladwy newydd cyn paratoi cynhyrchion Halal.
  • Mae arwynebau a ddefnyddir i baratoi bwyd, byrddau, cyllyll ac offer yn cael eu golchi a'u diheintio cyn paratoi cynhyrchion Halal.
  • Nid yw'r pryd yn cynnwys: alcohol, porc nac unrhyw beth a wnaed o borc e.e. cig moch, ham, selsig, gelatin sy'n dod o anifail na lard
  • Mae'r holl olewau a brasterau a ddefnyddir wrth baratoi a choginio prydau Halal yn dod o had rêp.
  • Mae'r caws a ddefnyddir fel rhan o'r pryd yn gaws llysieuol h.y. nid yw'n cynnwys rennet sy'n dod o anifeiliaid.
  • Lle bynnag y bo'n ymarferol, caiff bwyd Halal ei goginio mewn popty ar wahân. Os nad yw hyn yn bosib caiff y bwyd ei orchuddio a gosodir y ddysgl Halal uwchben bwyd arall i leihau'r risg o groes-halogi.
  • Yn ystod y gwasanaeth, defnyddir offer ar wahân i weini prydau Halal.
  • Mae'r holl staff cynhyrchu a gwasanaethu wedi dilyn hyfforddiant ar y codau ymarfer uchod. 

Tystysgrif halal Tystysgrif halal Tystysgrif halal Tystysgrif halal Tystysgrif halal