Offer Sgrin Arddangos a Materion Rhan Uchaf y Corff

Cynllun 12 pwynt ar gyfer trefnu gweithfannau

1. Uchder y gadair

Gosodwch y gadair fel bod eich penelinoedd tua’r un lefel â’r ddesg. Dylech ddal eich arddyrnau mewn modd ymlaciedig a naturiol. Sicrhewch nad yw breichiau’r gadair yn eich rhwystro rhag bod yn ddigon agos at y ddesg / allweddell neu’n rhwystro’r penelinoedd pan fyddwch yn teipio.

2. Troedle

Os nad yw eich traed yn cyffwrdd â’r llawr, defnyddiwch droedle i’w cynnal a sicrhewch nad oes pwysau gormodol ar y pen-ôl a/neu’r cluniau (dylai eich cluniau fod yn llorweddol).

3. Cefn y gadair

Gosodwch gefn y gadair i gynnal gwaelod y cefn. Newidiwch ongl cefn y gadair i’w gwneud yn fwy cyfforddus ac i roi mwy o gefnogaeth. Dylai fod yn unionsyth pan fyddwch yn teipio.

4. Allweddell

Dylai’r allweddell fod bellter cyfforddus o ymyl blaen y ddesg (yn dibynnu ar sut yr ydych yn teipio) ac yn baralel iddo. Dylech sicrhau bod lle o flaen yr allweddell i orffwys eich dwylo/breichiau pan nad ydych yn teipio.

5. Llygoden

Gwnewch ddigon o le i symud y llygoden (a’r mat os ydych yn defnyddio un) yn ddigon agos i chi beidio â gorfod gorymestyn. Dylech sicrhau bod digon o le o flaen y llygoden fel nad yw eich llaw/braich wedi’i rhwystro pan fyddwch yn ei defnyddio.

6. Monitor

Newidiwch y pellter gweld ac uchder y sgrin fel y mynnwch ond sicrhewch eich bod yn edrych ar y sgrin ar ogwydd tuag i lawr. At ei gilydd, dylai eich llygaid fod ar yr un lefel ag ymyl uchaf y sgrin a dylai’r sgrin fod tua hyd braich oddi wrthoch.

7. Sgrin

Dylai fod yn bosib osgoi disgleirdeb ac adlewyrchiadau drwy newid gogwydd y sgrin. Er mwyn sicrhau’r ongl iawn, dylai’r sgrin fod ar ongl sgwâr i’r llinell weld (ni ddylai fod yn rhaid gweithio gyda’r sgrin yn gogwyddo tuag i lawr i osgoi adlewyrchiadau). Defnyddiwch lenni os oes rhai ar gael.

8. Safle’r defnyddiwr

Peidiwch â gweithio ar onglau rhyfedd os yw hynny’n bosib – dylai eich corff fod yn sgwâr â’ch desg.  Felly, os ydych yn gweithio ar y cyfrifiadur, dylai’r sgrin fod yn union o’ch blaen. Os ydych yn teipio copi, rhowch y copi yn union o’ch blaen.

9. Dogfennau

Os ydych yn gweithio o gopi caled, defnyddiwch ddaliwr dogfennau lle bynnag y gallwch. Yn ddelfrydol, dylai eich dogfennau fod yr un pellter oddi wrthych â’r sgrin. Os nad yw’n bosib defnyddio daliwr dogfennau, meddyliwch am roi’r ddogfen rhwng y sgrin a’r allweddell.

10. Gosod cyfarpar

Meddyliwch am sut y mae cyfarpar arall wedi’i osod, yn enwedig unrhyw eitemau a ddefnyddir yn aml. Ni ddylech orfod gorymestyn i gyrraedd y ffôn, na deunydd y cyfeirir ato’n aml. Ni ddylai peiriannau argraffu fod yn agos at y sawl sy’n eu defnyddio (e.e. ar ddesg y defnyddiwr).

11. Egwyliau

Trefnwch eich gwaith fel bod modd i chi gael egwyliau byr i ffwrdd o’r sgrin e.e. casglu dogfennau o’r argraffydd, ffeilio, gwneud coffi, ayyb. Pan nad ydych yn defnyddio’r allweddell, newidiwch eich gweithfan er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio mewn sawl ffordd wahanol yn ystod y dydd.

12. Unrhyw broblemau?

Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio eich gweithfan, neu os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â iechyd a diogelwch, cysylltwch â’ch rheolwr llinell neu’r asesydd DSE lleol.