Mesurydd Cerrynt Socedi Trydan

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio ceblau estyn yn eu cartrefi ac yn eu mannau gwaith i gynyddu nifer y dyfeisiau trydanol y gellir eu cysylltu i bob soced.

Fodd bynnag, dylai defnyddwyr fod yn ofalus oherwydd er bod lle i gysylltu amryw ddyfeisiau, nid yw bob amser yn ddiogel i wneud hynny. Mae gwahanol offer trydanol yn gosod gwahanol ofynion ar y cylched pŵer. O ganlyniad, efallai nad yw bob amser yn ddiogel i gysylltu, dyweder, pedair dyfais drydanol i addaswr 4 ffordd.

Peidiwch byth â gorlwytho cebl estyn ag offer a fydd, gyda’i gilydd, yn creu cerrynt sy’n uwch na’r uchafswm a nodir ar y cebl estyn. Gall hyn achosi i’r plwg orgynhesu, ac fe allai achosi tân. Mae ceblau estyn nodweddiadol yn 13 A, serch hynny gall rhai fod yn 10 A neu lai. Dylai’r dosbarthiad ar gyfer pob cebl estyn fod wedi’i nodi ar waelod pob un.

Defnyddiwch y mesurydd cerrynt isod, a ddatblygwyd gan Electrical Safety First, i weld sut mae cysylltu gwahanol ddyfeisiau trydanol yn effeithio ar lwyth y cerrynt. Mae’r mesurydd hefyd yn cynnig cyngor defnyddiol ar sut i osgoi gorlwytho eich socedi. 

 

The Socket Calculator has been brought to you by Electrical Safety First.

For more safety information visit http://www.electricalsafetyfirst.org.uk