Camau Cyffredinol

Yn gyffredinol

Os gallwch weld, clywed, neu deimlo tân:

  1. Seiniwch y larwm tân agosaf.
  2. Rhowch wybod i’r o ffôn/ffôn symudol mewn lle diogel.
  3. Gadewch yr adeilad drwy’r allanfa agosaf, gan gau drws eich ystafell ar eich ôl.
  4. Ewch i’ch man ymgasglu.
  5. Peidiwch ag ymladd y tân heblaw eich bod wedi cael hyfforddiant, a’i bod yn ddiogel i chi wneud hynny.
  6. Gwrandewch ar gyfarwyddiadau’r Swyddogion Tân
  7. Peidiwch â defnyddio’r lifft (heblaw ei fod yn addas ar gyfer ymadael pan fydd tân).
  8. Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad hyd nes y cewch ganiatâd i wneud hynny.

Os clywch y larwm, gadewch yr adeilad ar unwaith, gan gau drysau ar eich ôl wrth i chi fynd.

Peidiwch â galw’r gwasanaethau brys heblaw eich bod yn gweld, clywed neu deimlo tân.

Yn Lleol

Dilynwch y gweithdrefnau tân lleol. Darllenwch  yr adeilad.

Nam symud neu synhwyraidd

Staff a Myfyrwyr

Cydlynir y gwaith o lunio Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) i’r staff a’r myfyrwyr gan yr .

Os credwch fod angen PEEP arnoch, cysylltwch â’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ac fe drefnwn i gwrdd â chi.

Ymwelwyr

Mae trefniadau cyffredinol ar waith mewn adeiladau sydd ar agor i’r cyhoedd (Canolfan y Celfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon, Llyfrgell HO, lleoliadau lletygarwch). Gellir cael rhagor o wybodaeth yn nerbynfeydd yr adeiladau hyn.

Mae staff y Brifysgol sy’n bwriadu croesawu ymwelwyr a chanddynt nam symud neu synhwyraidd yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau addas wedi’u gwneud cyn yr ymweliad (fel arfer bydd hyn yn golygu sicrhau bod yr ymwelwyr yn cael eu croesawu mewn mannau hygyrch y gellir mynd i mewn ac allan ohonynt yn rhwydd, gan gofio na ddylid defnyddio’r lifft os bydd y larwm tân yn seinio). Cysylltwch â’r os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â’r materion hyn os ydych yn bwriadu croesawu ymwelydd.

Gall y rhai sy’n trefnu cynadleddau a chyfarfodydd eraill yn y Brifysgol ofyn cyngor gan Swyddfa Gynadleddau’r Brifysgol.

Larymau Tân – Gadael Ystafelloedd Dysgu

Atgoffir pob aelod o’r staff dysgu, os seinir y larwm tân yn ystod sesiwn ddysgu, mai nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod y dosbarth yn gadael yr ystafell yn brydlon, ac yn ymgynnull yn y man ymgynnull priodol drwy’r ffordd ddiogel fyrraf.

Felly, dylech ymgyfarwyddo â’r trefniadau ym mhob adeilad perthnasol (dangosir y camau i’w cymryd os bydd tân yn y coridorau. Mae saethau gwyn ar gefndir gwyrdd a symbol dyn yn rhedeg yn nodi’r llwybrau ymadael).

Os oes myfyriwr yn eich dosbarth sydd ag anghenion arbennig a allai effeithio ar gynlluniau ymadael, trafodwch hyn â’r .

Sylwer: Mae Llandinam a Hugh Owen yn gweithredu system larwm tân fesul ardal oherwydd eu maint. Os bydd y larwm yn seinio’n ysbeidiol, paratowch i ymadael; os bydd y larwm yn seinio’n ddi-dor gadewch ar unwaith. (Yn Llyfrgelloedd HO dilynwch gyfarwyddiadau’r Swyddogion Tân.)