Ymchwilio i Ddigwyddiad

Mae’r adran ganlynol yn rhoi arweiniad ynglŷn â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiad. Dylai aelodau staff gofnodi’r prif gasgliadau sy’n deillio o’r ymchwiliadau mewnol y dylid eu cwblhau ar gyfer pob digwyddiad. Os hoffech gael cyngor neu arweiniad ynglŷn â chynnal ymchwiliad mewnol i ddigwyddiad, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

1. Rhagofalon eisoes ar waith i atal digwyddiadau o’r fath?

Yn yr adran hon dylai ymchwiliadau lleol i ddigwyddiadau gadarnhau’r mesurau neu drefniadau diogelwch oedd ar waith cyn y digwyddiad. Yn gyffredinol, bydd y manylion a roddir yn yr adran hon yn deillio o’r mesurau a geir yn y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol neu’r Asesiadau Risg perthnasol a luniwyd gan y Gyfadran/Adran, ac a ddylai fod ar gael i aelodau o’r staff. Maes testun rhydd yw hwn, felly dylai’r unigolyn sy’n gwneud adroddiad glicio yn y blwch dynodedig a theipio unrhyw fanylion ychwanegol perthnasol sydd ar gael.

2. Camau a gymerwyd yn syth ar ôl y digwyddiad?

Yn yr adran hon dylai ymchwiliadau lleol i ddigwyddiadau gadarnhau’r camau a gymerwyd yn syth ar ôl y digwyddiad i atal niwed pellach. Yn gyffredinol, bydd y manylion a roddir yn yr adran hon yn cynnwys manylion am y camau cychwynnol a gymerwyd i ymateb i’r digwyddiad, a gallent gynnwys, ymhlith pethau eraill, camau megis atal neu ohirio gwaith, rhoi gwybod am nam, cyfyngu ar fynediad, a chysylltu â’r gwasanaethau brys. Adran yw hon ar gyfer cofnodi gwybodaeth yn ymwneud ag atebion tymor byr i atal digwyddiadau o’r fath rhag digwydd eto, neu i atal niwed ychwanegol. Maes testun rhydd yw hwn, felly dylai’r unigolyn sy’n gwneud adroddiad glicio yn y blwch dynodedig a theipio unrhyw fanylion ychwanegol perthnasol sydd ar gael.

3. Camau a gymerwyd i atal digwyddiadau o’r fath rhag digwydd eto yn y dyfodol?

Yn yr adran hon dylai ymchwiliadau lleol i ddigwyddiadau ddarparu crynodeb o’r camau a gymerwyd ar ôl y digwyddiad i atal digwyddiadau o’r fath rhag digwydd eto yn y tymor hir. Yn gyffredinol, bydd y manylion a roddir yn yr adran hon yn cynnwys manylion am ymatebion i ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliad mewnol, a gallent gynnwys, ymhlith pethau eraill, camau megis diwygiadau neu newidiadau i’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, diwygiadau i asesiadau risg sy’n bodoli eisoes, a nodi unrhyw ofynion hyfforddi ychwanegol. Maes testun rhydd yw hwn, felly dylai’r unigolyn sy’n gwneud adroddiad glicio yn y blwch dynodedig a theipio unrhyw fanylion ychwanegol perthnasol sydd ar gael.  

4. Beth oedd yr achosion uniongyrchol a nodwyd?

Yn yr adran hon dylai ymchwiliadau lleol i ddigwyddiadau gadarnhau achosion uniongyrchol neu sylfaenol y digwyddiad neu’r hyn fu bron â digwydd, fel y nodwyd gan yr ymchwiliad i’r digwyddiad. Gall hyn fod neu gall beidio â bod yn debyg i’r math o ddigwyddiad a nodwyd gan yr unigolyn ar y Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad. Bydd hyn yn gysylltiedig ag achos yr anaf neu afiechyd.

5. Beth oedd yr achosion gwaelodol a nodwyd?

Yn yr adran hon dylai’r ymchwiliad lleol i ddigwyddiad gadarnhau achosion gwaelodol neu sylfaenol y digwyddiad neu’r hyn fu bron â digwydd, fel y nodwyd gan yr ymchwiliad i’r digwyddiad. Yn gyffredinol, bydd yr achosion sylfaenol yn cynnwys neu’n deillio o weithredoedd anniogel a/neu amodau anniogel e.e. gorchudd wedi’i symud, system awyru wedi’i ddiffodd, ac ati).

6. Beth oedd yr achosion sylfaenol a nodwyd?

Yn yr adran hon dylai’r ymchwiliad lleol i ddigwyddiad gadarnhau achosion sylfaenol y digwyddiad neu’r hyn fu bron â digwydd, fel y nodir gan yr ymchwiliad i’r digwyddiad. Hwn fydd y methiant sy’n sail i’r holl fethiannau eraill, yn aml yn bell o’r digwyddiad niweidiol o ran lleoliad ac amser (e.e. methu â nodi anghenion hyfforddi ac asesu cymhwysedd, diffyg blaenoriaeth yn cael ei roi i asesiad risg ac ati). Mae bron yn anochel mai achosion sylfaenol digwyddiadau niweidiol yw methiannau rheoli, cynllunio a threfnu.

7. A yw’r asesiad(au) risg priodol wedi cael eu hadolygu?

Yn yr adran hon dylai’r ymchwiliad lleol i ddigwyddiad gadarnhau a yw’r asesiad(au) risg perthnasol sy’n gysylltiedig â gweithgaredd wedi cael eu hadolygu yn sgil yr ymchwiliad i’r digwyddiad. Byddai’n cael ei ystyried yn arfer da i adolygu’r holl asesiadau risg perthnasol ar ôl i rywbeth ddigwydd neu i rywbeth bron â digwydd. Gallai’r adolygiad gynnwys addasu mesurau rheoli sydd eisoes ar waith neu nodi mesurau rheoli ychwanegol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd eto ac i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, gwaelodol neu uniongyrchol. Dylid cadw cofnod o’r adolygiad hwn hyd yn oed os na wneir unrhyw ddiwygiadau i’r asesiad(au) risg.