Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol
Ysgogi arloesi mewn ffermio trwy ymchwil, technoleg a chydweithredu
Seilwaith a Chyfleusterau Meysydd y Dyfodol
Mae Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob rhan o Brifysgol Aberystwyth ac yn darparu mynediad at gyfuniad unigryw o gyfleusterau ymchwil, amgylcheddau amaethyddol a thechnolegau digidol sy'n cefnogi datblygu, profi a mabwysiadu datrysiadau ffermio'r genhedlaeth nesaf.
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:
Y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion
Dronau a Synhwyro o Bell
Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg ac Amaethyddiaeth Ddigidol
Ffermydd Ymchwil a Llwyfannau Maes
Labordai a Chyfleusterau Dadansoddi
Gweithio gyda ni
Yn ogystal â phrosiectau ymchwil cydweithredol, mae'r hyb yn cynnig gwasanaethau ymgynghori sy'n cynnwys:
- arolygon â dronau
- monitro amgylcheddol
- dadansoddi data
- cyfleoedd i dreialu offer a roboteg newydd ar y fferm
Cysylltwch â ni trwy anfon neges ebost at futurefields@aber.ac.uk.







