Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol
Ysgogi arloesi mewn ffermio trwy ymchwil, technoleg a chydweithredu
Ein Harbenigwyr
Mae Hyb Ymchwil Meysydd y Dyfodol yn tynnu ar arbenigwyr o bob cwr o Brifysgol Aberystwyth, gan gynnwys Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a’r adrannau Cyfrifiadureg a Gwyddorau Bywyd. Dyma rai o'r gwyddonwyr sy'n arwain gwaith y grŵp newydd yma.

Mae Jason Brook yn dechnegydd profiadol sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn IBERS. Mae'n arbenigwr mewn Technoleg-Amaeth awtonomaidd sy'n seiliedig ar dronau ac mae ei waith yn cynnwys:
- arwain rhaglenni monitro sy'n seiliedig ar dronau ar draws tirweddau amaethyddol ac arfordirol
- darparu dadansoddeg LiDAR cydraniad uchel ac aml-sbectrol ar gyfer asesu biomas, cynefinoedd a defnydd tir
- dylunio a defnyddio rhwydweithiau synhwyro LoRaWAN ar gyfer casglu data amgylcheddol mewn amser real
- datblygu systemau gwrtaith a hadau manwl gywir sy'n seiliedig ar dronau ar gyfer ffermio mewnbwn isel
- adeiladu partneriaethau diwydiant-academaidd i gyflymu atebion rheoli tir graddadwy, sy'n seiliedig ar ddata

Mae Dr Rhys Jones yn ymchwilydd ac yn ddarlithydd mewn Gwyddor Da Byw ac Amgylcheddol yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol. Mae ei ymchwil yn cynnwys:
- datblygu technegau rheoli parasitiaid cynaliadwy fel bod cynhyrchwyr da byw ac arbenigwyr anifeiliaid yn gallu cynllunio strategaethau rheoli parasitiaid mwy effeithiol
- canolbwyntio ar lyngyr yr afu, llyngyr y rwmen, y malwod lletyol ganolradd Galba truncatula a nematodau gastroberfeddol sy’n heintio gwartheg a defaid
- defnyddio technegau dadansoddiad DNA amgylcheddol (eDNA), dilyniannu amplicon dwfn, modelu gofodol, dulliau parasitoleg traddodiadol, a thechnoleg da byw manwl gywir

Mae Fred Labrosse yn ymchwilydd ac yn uwch ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil ym maes roboteg a phrosesu delweddau/gweledigaeth beiriannol ar gyfer roboteg, yn benodol ym maes llywio awtonomaidd oddi ar y ffordd. Dr Labrosse hefyd yw Arweinydd ANTUR (Tirwedd Naturiol Aberystwyth ar gyfer Roboteg Heb Gyfyngiad) ac mae ei waith yn cynnwys:
- datblygu roboteg symudol awtonomaidd ar gyfer amgylcheddau awyr agored
- galluogi robotiaid i lywio tirwedd a thraciau cymhleth, naturiol
- darparu arbenigedd mewn llywio cerbyd o dan arweiniad offer gweld, wedi'i integreiddio â GNSS, IMUs a LiDAR
- ymchwilio i ddulliau o ddisgrifio llwybrau (y tu hwnt i gyfesurynnau sefydlog) i sicrhau defnydd dibynadwy yn y byd go iawn

Mae Dr Hannah Vallin yn ecolegydd moleciwlaidd yn IBERS. Mae hi'n arbenigo mewn:
- metabarcodio DNA a chymwysiadau DNA amgylcheddol (eDNA) ar gyfer ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol
- defnyddio offer moleciwlaidd i asesu bioamrywiaeth glaswelltir, cyfansoddiad rhywogaethau glaswelltir, a rhyngweithiadau planhigion-anifeiliaid, gan gefnogi datblygiad systemau amaethyddol mwy gwydn a chynaliadwy.
cymhwyso technolegau dilyniannu uwch i wella dealltwriaeth o ecosystemau glaswelltir a'u hymatebion i newid amgylcheddol, fel rhan o raglen Cnydau Gwydn BBSRC
Gweithio gyda ni
Yn ogystal â phrosiectau ymchwil cydweithredol, mae'r hyb yn cynnig gwasanaethau ymgynghori sy'n cynnwys:
- arolygon â dronau
- monitro amgylcheddol
- dadansoddi data
- cyfleoedd i dreialu offer a roboteg newydd ar y fferm
Cysylltwch â ni trwy anfon neges ebost at futurefields@aber.ac.uk.
