Ffenoteipio ar draws Graddfeydd Gwahanol

 

Ffenoteipio ar draws Graddfeydd Gwahanol

Mae IBERS yn rhedeg y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffenomeg Planhigion (NPPC), sef system awtomataidd ar gyfer ffenoteipio hydredol anfewnwthiol ar gyfer hyd at 3,400 o blanhigion unigol. Mae’r Ganolfan NPPC yn rhoi modd asesu poblogaethau o gnydau, a phlanhigion eraill, drwy ddefnyddio synwyryddion gweledol anfewnwthiol, is-goch, NIR, fflworoleuedd sy’n sganio delweddu â laser er mwyn cofnodi’r egin yn tyfu ac yn datblygu, eu cynnwys dŵr, gweithgaredd ffotosynthetig, tymheredd a datblygiad gwreiddiau (gan ddefnyddio colofnau pridd tryloyw). Gellir gwneud mesuriadau manylach o ffoto-ffisioleg ar hyd at 2,000 o blanhigion ar ein platfform planhigion bach. Mae arweinydd y Ganolfan NPPC (Doonan) wedi sefydlu galluoedd drwy fod yn aelod craidd o gonsortia rhyngwladol (e.e., EPPN, EMPHASIS) er mwyn ffenoteipio planhigion cnydau a model. Mae cyfleusterau tŷ gwydr ac amgylchedd rheoledig helaeth hefyd ar gael gan gynnwys y Venlo (26 uned sy’n rheoli tymheredd a hyd y diwrnod), a 10 cabinet/ystafell Sanyo a Saxil sy’n rheoli hyd y diwrnod, tymheredd a lleithder. Mae arbrofion cnydau IBERS hefyd yn cael eu cynnal mewn cyfleuster pwrpasol ar gyfer yr atmosffer, y pridd a’r planhigion (offeryn glaw/lysimedr), sy’n gweithredu fel tŷ hanner ffordd rhwng y cae a’r tŷ gwydr. Mae’n debygol y bydd Amaethyddiaeth Amgylchedd Rheoledig yn rhan o gadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol, ac mae cyfleusterau ymchwil ffermio fertigol newydd yn rhan o Gampws Arloesi Aber, i gysylltu ymchwil ag anghenion diwydiant, ac i adeiladu ar y prosiect Planhigion a Phensaernïaeth.

Mae cryn fuddsoddi diweddar mewn offer delweddu drwy CCAUC wedi galluogi uwchraddio i gyfleusterau microsgopeg cydffocal ac electron, a gwella gallu FTIR ar gyfer ffenoteipio metabolomig trwybwn uchel. Mae labordai trawsnewid genetig IBERS a chyfleusterau tŷ gwydr yn rhoi modd trin planhigion model a chnwd (e.e., Brachypodium, Lolium, Festuca, Zea a Miscanthus), gan gynnwys trwy olygu genomau (CRISPR/Cas), ac fe’u defnyddir ar gyfer addasu nodweddion megis cellfuriau, hunan-anghydnawsedd ac ailgyfuno. Mae gan yr uned Cemeg Ddadansoddol yn IBERS achrediad ISO 17025 mewn 19 o dechnegau i safon diwydiant ar gyfer dadansoddi porthiant a maethynnau a phrosesu samplau mewnol ac allanol. Mae’r labordy dilyniannu DNA yn golygu gallu lleol ar gyfer prosiectau llai o faint yn enwedig pan mae angen trosi cyflymach gan ddefnyddio Illumina MiSeq ar gyfer SNP, metagenomeg a dilyniannu amplicon. Mae’r cyfleuster metabolomeg yn IBERS yn cynnwys sbectrometreg màs cydraniad uchel a thechnegau cromatograffaeth (GC-MS-MS, GC-tof-MS, LC-MS) ar gyfer metabolomeg heb ei dargedu, dadansoddi cemegol a strwythurol, proteomeg a phroffilio celloedd.