Gallai darganfod nodweddion planhigion wella storio carbon yn y pridd

Miscanthus ym Mhrifysgol Aberystwyth
16 Chwefror 2026
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi darganfod nodweddion penodol mewn Miscanthus a allai helpu i gloi mwy o garbon yn y pridd, gan helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae Miscanthus yn blanhigyn gyda llawer o goesynnau tebyg i wellt ac yn tyfu hyd at bedwar metr o uchder y flwyddyn. Caiff ei gynaeafu yn y gwanwyn ac mae'n tyfu'n ôl i gynhyrchu cnwd bob blwyddyn.
Gall dyfu'n dda ar dir sy'n llai addas ar gyfer cnydau bwyd, ac fel arfer defnyddir y cnwd ar gyfer bio-ynni, sef gwres a phŵer. Yn ogystal gellir ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu gwyrdd a chynhyrchu cemegau, fel deunydd adeiladu a deunydd gorwedd ar gyfer da byw.
Gall y cnwd hefyd storio carbon dan ddaear, gan helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae'r ymchwil newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Frontiers in Plant Science, yn nodi pa nodweddion planhigion sydd bwysicaf i wella storio carbon yn y pridd, gan helpu ffermwyr i dyfu cnydau clyfar o ran yr hinsawdd tra’n cynnal cynnyrch uchel.
Drwy ddadansoddi cyfansoddiad cemegol dail, gwreiddiau a choesynnau tanddaearol y planhigyn, adnabu gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth nodweddion sy'n gysylltiedig â storio carbon yn y pridd.
Edrychodd yr astudiaeth ar 11 math o Fiscanthus a chanfu bod rhisomau - coesynnau coediog tanddaearol y cnwd - yn symud carbon yn ddyfnach i'r pridd, lle gall aros yn sefydlog. Mae gwreiddiau â lefelau is o gemegyn planhigion naturiol, lignin, yn storio mwy o garbon yn agos at wyneb y pridd.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu mai'r mathau Miscanthus mwyaf effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd yw'r rhai sydd â thwf tanddaearol mawr a gwreiddiau gyda lefelau is o lignin.
Dywedodd Dr Paul Robson, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a arweiniodd yr astudiaeth:
“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein hymchwil - gan ein helpu i ddeall pa nodweddion sy'n gwneud Miscanthus yn fwyaf effeithiol wrth storio carbon yn y pridd. Mae mathau’n storio carbon yn wahanol, ac mae deall y perthnasau hyn yn helpu i arwain strategaethau bridio sy'n cynnig manteision hinsawdd ac amaethyddol gyda'i gilydd.”
“Mae angen i’r Deyrnas Gyfunol leihau allyriadau CO2 er mwyn lleihau newid hinsawdd, ac mae angen i ni hefyd ddatblygu ein heconomi i fanteisio ar dechnolegau gwyrdd yn hytrach na dibynnu ar danwydd ffosil. Rydym ni’n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn rhoi hwb hyd yn oed yn fwy i’r symudiad tuag at gymdeithas wyrddach.”
Dywedodd Dr Amanda Holder, Ymchwilydd Cyswllt Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae rhaglenni bridio ar gyfer Miscanthus yn dal i fod yn eu cyfnod cynnar. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi canllawiau ymarferol ar ba nodweddion sydd fwyaf tebygol o gefnogi storio carbon yn y pridd, gan helpu i sicrhau bod mathau y dyfodol yn cynnig manteision hinsawdd ochr yn ochr â chynnyrch uchel. Mae’r astudiaeth yn dangos ei bod hi’n bosibl gwella storio carbon yn y pridd heb ostwng cynhyrchiant, gan gefnogi’r achos dros Miscanthus fel cnwd amlbwrpas a charbon isel.”
Mae'r gwaith yn cyd-fynd â ffocws strategol IBERS ar ddatblygu cnydau gwydn ac fe'i cefnogwyd gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) drwy eu rhaglen Cnydau Gwydn.
