Ynglŷn â’r Arolwg Busnes Fferm

Sut y mae’r ffermydd yn cael eu dewis?

Dewisir ffermydd ar hap o ffurflenni Cyfrifiad Mehefin i ddarparu sampl gynrychioladol o 600 o ffermydd yng Nghymru sy’n cynnwys y prif fathau. Anfonir llythyron at gyfranogwyr posibl ac os bydd y ffermwr yn cytuno, trefnir dyddiad ymweld drwy ffonio. Yn ystod yr ymweliad recriwtio, nodir maint y fferm, y system ffermio, nifer y stoc agoriadol a’r manylion banc, yn ogystal â gwybodaeth arall sy’n berthnasol.

Sut y mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu?

Bydd Swyddog Archwiliadol o’r Sefydliad yn ymweld â’r fferm unwaith y flwyddyn ac yn nodi’r manylion ariannol ar liniadur yn ogystal â niferoedd stoc, tiroedd dan gnwd a data ffisegol arall am y fferm.

Sut y mae ffermwyr yn elwa?

Cyflwynir cyfrifon rheoli a meintiau elw gros ar gyfer mentrau godro, cig eidion a defaid ynghyd â data cymharol ffermydd tebyg i’r ffermydd sy’n cydweithio.       

Trwy gydweithrediad y ffermwyr, darperir gwybodaeth gywir i undebau’r ffermwyr, llywodraethau, yr UE, sefydliadau addysgol ac eraill i’w defnyddio wrth lunio polisïau effeithiol ac wrth ddysgu ac ymchwilio.

A yw’r arolwg yn gyfrinachol?

Mae pob fferm sy’n cymryd rhan yn cael ei hadnabod yn ôl rhif yn unig ac ni chyhoeddir manylion ffermydd unigol.

Pwy sy’n gallu gweld y data?

Anfonir y data electronig wedi’u prosesu at Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r UE yn ddienw. Cyhoeddir y canlyniadau bob blwyddyn yn ôl y math o fferm a chyfartaledd grwpiau o ran eu maint.