Pwllpeiran
Mae Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran yn ganolfan astudio ecosystemau ucheldirol sy'n cael ei ffermio. Saif yng nghalon mynyddoedd y Canolbarth ger Ardal Gadwraeth Arbennig Elenydd
Mae ychydig dros 50% o’r tir amaethyddol a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain yn cael ei roi yn nosbarth ‘Ardal Lai Ffafriol’, ac yng Nghymru mae’r ffigur hwnnw yn codi i 80%.
Mae uchder y tir, nodweddion y pridd ac amodau’r hinsawdd yn cyfuno i gyfyngu posibiliadau’r rhan fwyaf o’r ffermydd yn yr ardaloedd hyn i ffermio defaid a gwartheg ar raddfa eang, ac mae rhyw 60% o’r ddiadell defaid magu a 60% o’r fuches gwartheg sugno ym Mhrydain i’w cael yn yr ucheldiroedd.
Mae’r ucheldiroedd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu amrywiaeth o ‘wasanaethau’ ecosystemau e.e. rheoli dŵr (gan gynnwys darparu dŵr yfed a lliniaru ar effeithiau posib llifogydd), rheoli carbon (gan gynnwys cadw carbon yn y pridd a thynnu carbon o’r atmosffer), a rheoli tirweddau a threftadaeth (gan gynnwys twristiaeth, hamdden a chyfleoedd addysgiadol).
Mae gan Bwllpeiran hanes hir a heb ei ail o chwarae rhan yn y newidiadau a’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn yr ucheldiroedd, ac mae darganfyddiadau ar y safle wedi rhoi arweiniad i amaethyddiaeth porfeydd yn rhyngwladol.
Yn y 1930au daeth Pwllpeiran yn ganolbwynt Cynllun Gwella Tir Uchel Cahn, sef canolfan arloesol Syr George Stapledon a fu’n gweithio ar ddatblygu dulliau o sefydlu porfeydd cynhyrchiol ar dir uchel. Sefydlwyd Fferm Hwsmonaeth Arbrofol ar y safle yn 1955, ac erbyn heddiw Pwllpeiran yw’r unig fferm ymchwil ucheldir yng Nghymru a Lloegr sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus.
Mae’r mathau o lystyfiant ar y safle yn amrywio’n helaeth, o lastir wedi’i wella ac a reolir yn ddwys, i dir pori mynyddig.
Mae’r amrywiaeth hwnnw yn golygu y gellir profi effeithiau gwahanol sefyllfaoedd rheoli ar amrywiaeth o fathau o lystyfiant ar yr un safle, ac mae hynny’n sicrhau bod cyn lleied â phosib o wahaniaethau o ran yr hinsawdd neu ffactorau amgylcheddol eraill a allai ddrysu canlyniadau’r profion hynny.
Mae’r cymunedau lled-naturiol yno yn cynnwys cynefinoedd sydd o ddiddordeb cadwraethol rhyngwladol yn ogystal â mathau allweddol o lystyfiant o safbwynt rheoli dŵr a charbon, ac mae’r tir pori garw lled-naturiol wedi’i gau gan ffens derfyn. Mewn llawer o’r cymunedau yno mae gwaith arbrofol blaenorol wedi creu ardaloedd sydd ar wahanol gamau yn eu datblygiad wrth gael eu newid neu’u hadfer.
Cysylltiadau â phrosiectau eraill
Ariannir gan: