MSc i Ddiwydiant: Sut y lluniodd Prifysgol Aberystwyth fy llwybr
Ahmad Hassan
03 Mehefin 2025
Ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Meddygaeth Filfeddygol ym Mhacistan, roeddwn i eisiau datblygu dealltwriaeth ddyfnach o faeth a chynhyrchu da byw. Arweiniodd hyn fi i ymuno â Phrifysgol Aberystwyth yn 2022 i ddilyn cwrs MSc mewn Gwyddor Da Byw. Cefais fy nenu at Adran y Gwyddorau Bywyd oherwydd ei chefndir ymchwil a'i ffocws ymarferol ar systemau da byw a phrofodd i fod yn gam allweddol yn fy ngyrfa.
Roedd y cwrs yn heriol, ond roedd y modiwlau craidd mewn Maeth Da Byw, Gwyddor Cynhyrchu Da Byw, a Gwyddor Glaswelltir yn cyd-fynd yn agos ag anghenion diwydiant y DU ac yn helpu i adeiladu fy sylfaen dechnegol. Yn ddiweddarach, roedd fy nhraethawd hir a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau manwl gywir ar gyfer canfod clefydau anadlol (respiratory) yn gynnar mewn lloi yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd ar fferm ymchwil llaeth y Brifysgol. Ehangodd y prosiect hwn fy nealltwriaeth o ffermio da byw manwl gywir a gwella fy sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio offer rhaglennu ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata. Roedd y staff bob amser yn gefnogol yn ystod fy astudiaethau, ac roedd eu harweiniad a'u harbenigedd yn allweddol drwy gydol fy amser yn Aber.
Yn ystod fy astudiaethau roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i sicrhau interniaeth fel Cynorthwyydd Labordy Maeth Anifeiliaid drwy raglen ABERYmlaen y Brifysgol, lle gweithiais ar draws campysau Penglais a Gogerddan. Rhoddodd y cyfle hwn, mewn cydweithrediad â phartner diwydiant allanol (Ymgynghorwyr Omeva), brofiad labordy ymarferol gwerthfawr i mi ac yn ddiweddarach, amlygiad i brosiectau ymchwil rhyngwladol.
Ar ôl cwblhau'r MSc, parheais i weithio'n rhan-amser gydag Omeva am flwyddyn arall, gan gyfrannu at brosiectau Un Iechyd byd-eang lle cefais yr anrhydedd o rannu Gwobr Iechyd Byd-eang FAO y Cenhedloedd Unedig am ymchwil ar ffliw adar. Hefyd, cefais fudd o Wasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol, a chwaraeodd ran allweddol wrth fy helpu i sicrhau fy interniaeth haf ac yn ddiweddarach paratoi ar gyfer cyfleoedd swyddi proffesiynol gan gynnwys cyfweliadau ffug, hyd yn oed ar ôl graddio.
Heddiw, rwy'n gweithio yn A-One Feed Supplements (rhan o'r grŵp rhyngwladol Devenish) yng Ngogledd Swydd Efrog, lle rwy'n gwasanaethu fel Maethegydd Anifeiliaid. Mae fy rôl yn cynnwys llunio porthiant ac atchwanegiadau ar gyfer da byw a dofednod, wedi'u teilwra i anghenion maethol penodol pob cwsmer/fferm. Mae'r sylfaen a adeiladwyd yn Aber wedi bod yn ganolog i'm taith broffesiynol. Rwy'n credu bod y cwrs yn cyfarparu graddedigion â'r wybodaeth a'r meddylfryd sydd eu hangen i lwyddo mewn ystod eang o rolau o fewn y sector da byw neu i ddilyn cyfleoedd academaidd neu ymchwil pellach yn hyderus.
Dysgwch mwy am ein gradd MSc mewn Gwyddor Da Byw yma.