Y Gwyddorau yn y Gymraeg: Gwenllian Jenkins

Gwenllian Jenkins yn cyflwyno ei hymchwil yng nghynadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
11 Gorffennaf 2025
Cysyniad dieithr yn aml yw cysylltu’r Gymraeg gyda’r gwyddorau, ond y gwrthwyneb i hwn yw fy mhrofiad i. Cefais fy annog i astudio trwy’r Gymraeg yn ystod fy ngradd israddedig er gwaethaf ddim astudio’r gwyddorau yn yr iaith o’r blaen. Ac yn edrych yn ôl nawr, dwi mor falch fy mod wedi astudio trwy’r iaith Gymraeg.
Ar y cychwyn, roedd hi’n anodd meddwl am drafod cysyniadau gwyddonol heb sôn am gyflwyno gwaith academaidd yn y Gymraeg. Ond drwy gymorth y darlithwyr, teimlais lawer mwy hyderus yn gwneud y pethau yma yn fy mamiaith nac erioed. Yn sydyn iawn, roedd cyfathrebu gwyddoniaeth yn haws gan fy mod i mor gyfforddus gyda’r iaith yn y lle cyntaf. A dwi’n ymwybodol iawn, mae dewis astudio trwy’r Gymraeg wnaeth agor drws y PhD i mi. Mae dal yn anodd medru darganfod y termau allweddol cywir, ac yn enwedig adnoddau darllen ac adolygu Cymraeg, ond dwi nawr mor ymwybodol o gymorth o fewn y brifysgol i'n cynorthwyo.
Mae dewis defnyddio’r Gymraeg yn y maes Bioleg wedi agor fy llygaid at yr ystod o ymchwil sy’n digwydd yma. Mae’r iaith wrth wraidd ymchwil diddorol, gyda geiriau Cymraeg yn ymddangos o fewn sawl darganfyddiad cyffrous! Gyda rhywogaeth o ffwng anaerobig o’r enw Buwchfawromyces eastonii wedi’i ddarganfod o fewn ysgarthion byfflo gan wyddonwyr a’n darlithwyr o Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â Myxococcus llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogochensis; sef rhywogaeth o myxobacteria sydd yn byw yn y pridd o gwmpas yr ardal. Yn ôl y sôn, dyma yw’r enw hiraf erioed ar rywogaeth yn ôl cyfundrefn enwau binomaidd!
Mae’r cymorth i astudio’r gwyddorau yn yr iaith yn cynyddu. Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn esiampl berffaith o hybu diddordeb a gwybodaeth o fewn y gwyddorau amgylcheddol trwy’r Gymraeg (ac mae hyd yn oed un o’n hadeiladau ni yn yr adran wedi’u henwi ar ôl y botanegwr Cymraeg!). Mae’r iaith yn plethu ei hun yn berffaith fel sail am waith ac ymchwil academaidd o ansawdd dda. Gyda'n gwyddonwyr yn barod yn arwain y ffordd, gydag anogaeth bellach pwy a ŵyr beth fydd gwyddonwyr Cymraeg y dyfodol yn darganfod!
Nod fy ymchwil yw archwilio sut mae ffermwyr yng Nghymru yn cynhyrchu refeniw ar gyfer eu busnesau, gan ddefnyddio data o'r Arolwg Busnesau Fferm. Drwy ddadansoddi data economaidd a phersonol ar gyfer ffermydd a ffermwyr unigol, rwy’n gallu cyfrifo gwerth gwahanol fentrau o fewn pob busnes. Fy nod yw deall sut mae strategaethau cynhyrchu refeniw wedi esblygu dros amser ac archwilio sut mae proffil fferm yn dylanwadu ar gyfansoddiad ei refeniw ac, yn ei dro, ei strategaeth fusnes. Canolbwyntiais yn benodol ar dair ffynhonnell incwm allweddol: gwerthiannau marchnad, arallgyfeirio, a chymorthdaliadau'r llywodraeth.
Gallwch ddysgu mwy am y cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Adran Gwyddorau Bywyd YMA.