Rheoli Gwenith ar Fferm Clarkson

Chwith i dde: Harry, Leah a Tanner

Chwith i dde: Harry, Leah a Tanner

14 Gorffennaf 2026

Mae myfyrwyr o Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth, wedi sicrhau'r trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cnydau Ceres Rural eleni, gyda'r seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Cereals, a gynhaliwyd eleni ar fferm Diddly Squat Jeremy Clarkson.

Dychwelodd y tîm, sef Leah Crabbe, Tanner Breeze, Harry Wrighthouse a Suan Bawmkhai, i'r gystadleuaeth ar ôl gweithredu ar yr adborth a gafwyd y llynedd, gan ddangos sut y gall profiad ymarferol, gwaith tîm a gwybodaeth dechnegol arwain at welliannau gwirioneddol.

Wedi'i threfnu gan Ceres Rural mewn partneriaeth â'r Association of Independent Crop Consultants (AICC), mae'r gystadleuaeth yn herio timau prifysgol i reoli cnwd masnachol o wenith gaeaf o safbwynt agronomeg a busnes. Caiff y timau eu hasesu nid yn unig ar eu gallu i dyfu cnwd glân o safon uchel, ond hefyd ar ba mor effeithiol y maent yn marchnata eu grawn drwy gydol y tymor – dwy sgil sy'n hanfodol i ffermio âr proffidiol.

Canolbwyntiodd her eleni ar gnwd o wenith gaeaf Skyfall a dyfwyd ar Fferm Diddly Squat. Datblygodd tîm Aberystwyth gynllun cynhwysfawr ar gyfer rheoli gwrtaith, maetholion a chwynladdwyr, gan addasu eu penderfyniadau'n ofalus yn unol ag amodau'r tymor. Bu eu profiad o reoli cnydau mewn amgylcheddau gwlypach yn fantais amlwg, gan eu galluogi i gyflawni rhaglen chwynladdwyr amserol ac effeithiol drwy gydol y tymor tyfu.

Yn ogystal â rheoli'r cnwd, roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am farchnata pedwar cyfran o'u gwenith yn seiliedig ar farchnadoedd grawn rhyngwladol. Er i'w penderfyniad i werthu dod ychydig cyn cynnydd sylweddol ym mhris gwenith, llwyddodd y cnwd i sicrhau elw gros cryf o £970 yr hectar.

Diolch i'w perfformiad rhagorol, sicrhaodd y tîm y trydydd safle, ynghyd ag adborth gwerthfawr gan arbenigwyr blaenllaw'r diwydiant yn nigwyddiad Cereals.

Wrth fyfyrio ar y llwyddiant, dywedodd Leah:

"Rwy'n hynod falch o ganlyniad ein cnwd eleni. Gwnaethom wrando ar adborth y llynedd, ac fe helpodd hynny ni i fynd i ffwrdd, datblygu dealltwriaeth ddyfnach, a dychwelyd yn llawer gwell parod, sydd wedi arwain at ein trydydd safle."

Ychwanegodd Dr Irene Griffiths, Darlithydd a Bridiwr Ceirch yn Adran Gwyddorau Bywyd:

"Mae Cystadleuaeth Cnydau Ceres Rural yn gyfle arbennig i'r myfyrwyr roi eu gwybodaeth ar waith. Gan fod y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn nigwyddiad Cereals, maent yn cael adborth gwerthfawr gan arbenigwyr yn y maes. Mae hwn yn ganlyniad arbennig i'n myfyrwyr ac yn brofiad hynod werthfawr iddynt."

Llongyfarchiadau i Leah, Tanner, Harry a Suan ar gyflawniad arbennig ac am gynrychioli Prifysgol Aberystwyth mor rhagorol.

Gweler rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Amaethyddiaeth YMA