Amaethyddiaeth

Mae amaethyddiaeth fodern yn wynebu'r dasg o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n tyfu, a gwneud gyda llai o adnoddau drwy ddefnyddio technegau sy'n amddiffyn yr amgylchedd ac sy'n lliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Bydd ein cyrsiau Amaethyddol yn eich paratoi i allu mynd i'r afael â'r heriau hyn. Ymdrinnir â phob agwedd ar amaethyddiaeth a systemau cynhyrchu amaethyddol, a rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o'r dirwedd ffermio newidiol. 

Mae'r diwydiant amaethyddol yn dod yn fwyfwy amrywiol ac yn canolbwyntio ar dechnoleg ac mae cyfleoedd sylweddol i raddedigion amaethyddol hynod fedrus a brwdfrydig wneud gwahaniaeth a sicrhau gyrfaoedd hynod lwyddiannus. P'un a ydych chi'n rhywun sydd â chysylltiadau hirsefydlog â'r diwydiant yn barod neu os ydych yn newydd-ddyfodiaid brwdfrydig sydd ag awch am amaethyddiaeth, mae'r cyfleoedd hyn yn agored i chi. Caiff pob unigolyn sy'n diddori mewn Amaethyddiaeth deimlo'n gartrefol yn Aberystwyth. 

  • Yn y 10 uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr ym maes Amaethyddiaeth (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)
  • Yn y 3 uchaf yn y DU ym maes Amaethyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Amaethyddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)

Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae cysylltiad wedi bod rhwng Prifysgol Aberystwyth ac astudiaethau ar y tir ers dros 140 o flynyddoedd!
  • Byddwch yn cael eich dysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes sy’n arbenigo mewn bob math o agweddau ar systemau cynhyrchu da byw a chnydau, yn ogystal â rheoli busnes fferm, technoleg trachywiredd amaethyddol a'r cydgysylltiad amaethyddiaeth-amgylcheddol. Mae’r rhain yn cynnwys staff o’r Arolwg Busnes Ffermydd yng Nghymru, rhaglenni bridio glaswellt a chnydau Aberystwyth, y Ganolfan Ffenomeg Genedlaethol a Chanolfan Rhagoriaeth Aberystwyth ar gyfer Twbercwlosis Buchol. 
  • Byddwch yn ymweld â ffermydd a busnesau sy’n arloesi ar ben blaen y diwydiant ac yn dod i gysylltiad â’r datblygiadau a’r farn ddiweddaraf yn y diwydiant amaethyddol. 
  • Byddwch yn cael cyfle i wneud blwyddyn o brofiad gwaith gyda chefnogaeth tiwtor er mwyn datblygu sgiliau a gwella eich rhagolygon gyrfaol.
  • Byddwch yn cael eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys tasgau cymhwysol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Bydd y tasgau’n datblygu eich gwybodaeth, eich bywyd personol a'r sgiliau technegol sy'n berthnasol i yrfa yn y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Bydd galw am unigolion fel chi. 
“Mae cymysgedd gwych o fodiwlau yn cael eu cynnig ar y cwrs Amaethyddiaeth, sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar y pwnc. Mae'r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno mewn darlithoedd ar bynciau pwysig yn syml fel arfer ond yn drylwyr ac mae hyn yn gwneud y gwaith yn hawdd i'w ddeall a'i gofio. Mae ymweliadau i ffermydd hefyd yn ddifyr gan ei fod yn rhoi cyfle i chi arsylwi a deall gwahanol systemau. ”
Aled Rhys Lewis Aled Rhys Lewis Amaethyddiaeth

Cyflogadwyedd

Trwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n rhwydd i bron unrhyw gyflogaeth raddedig neu broffesiynol. 

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen yn nodweddiadol i weithio fel ymgynghorwyr amaethyddol, rheolwyr fferm, agronomegwyr a maethegwyr anifeiliaid, ac mae ganddynt opsiynau i ddilyn gyrfaoedd mewn ystod eang o swyddi yn y diwydiannau ategol, gyda'r llywodraeth a'r awdurdodau lleol.  






Cyfleusterau

Mae ffermydd y brifysgol yng Ngogerddan (fferm ddefaid a chig eidion), Morfa Mawr (cynhyrchu âr), Trawsgoed (fferm laeth) a Phwllpeiran (ucheldir) yn ymestyn i gyfanswm o dros 800 ha, ac yn amrywio o 0-600 metr uwchlaw lefel y môr. Rhwng y pedwar safle, mae'r ffermydd yn manteisio ar ddaearyddiaeth Gorllewin Cymru sy'n golygu sbectrwm o heriau amgylcheddol sy’n bras gynrychioli amodau tyfu tua 80% o laswelltiroedd Prydain. Mae ein mentrau'n cynnwys preiddiau o ddefaid masnachol a phedigri, buches sy'n cael ei godro'n robotig, uned cyfnewid heffrod godro, uned pesgi cig eidion, a phroses o gynhyrchu âr sy'n canolbwyntio ar borthiant cartref gan gynnwys haidd, gwenith, ceirch a bleiddlys.  

Yn y Ganolfan Ragoriaeth Arloesedd mewn Da Byw, canolbwyntiwn ar gynhyrchu cig dafad yn effeithlon a lleihau'r effaith amgylcheddol ar yr un pryd. Mae Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn gyfleuster unigryw er mwyn darparu datrysiadau a datblygiadau bridio ar gyfer rhywogaethau cnydau allweddol. Yn ogystal, mae Canolfan Ymchwil yr Ucheldir, Pwllpeiran yn adnodd ymchwil sy'n ymchwilio i ecosystemau ffermio ucheldirol, ac mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn dod â'r byd academaidd a busnesau o'r sectorau biowyddoniaeth, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod ynghyd ar gampws newydd sbon gwerth £40.5m. 

Mae ein rhaglenni bridio cnydau a glaswellt yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae iddynt ran bwysig yn y gwaith o siapio cynhyrchu amaethyddol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol drwy ddatblygu glaswelltydd pori siwgr uchel, cnydau protein porthiant meillion gwyn a choch ac mae 65% o holl geirch Prydain yn deillio o fathau a ddatblygwyd yn Aberystwyth. Mae myfyrwyr amaethyddol y flwyddyn gyntaf yn rheoli lleiniau o gnydau âr sy’n cael eu tyfu ochr yn ochr â mathau masnachol newydd sy'n cael eu datblygu. 

 

Ymchwil

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau o fewn y gwyddorau amaethyddol a rheoli busnes fferm. Mae ein hymchwil presennol yn cynnwys:  

Lleihau’r Nwyon Tŷ Gwydr a Gynhyrchir mewn Amaethyddiaeth Da Byw trwy wella bwydo, yn arbennig trwy ddefnyddio glaswelltiroedd porthiant sy'n cynnwys mwy o garbohydradau (siwgr) sy'n hydoddi mewn dŵr. 

Bridio porthiant a chnydau âr yn enwedig meillion a rhygwellt parhaol sy'n sylfaen i amaethyddiaeth fugeiliol a cheirch y mae iddynt fuddion iechyd yn ogystal â llu o gynhyrchion bwyd a phorthiant newydd. 

Parasitoleg Da Byw a rheoli clefydau yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd o reoli parasitiaid mewnol fel Llyngyr yr Afu a Llyngyr Main. Prifysgol Aberystwyth hefyd yw cartref y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol.  

Bridio Miscanthus a chnydau ynni eraill er mwyn darparu porthiant biomas lignocellwlosig at ddibenion diwydiannol. 

Busnes Fferm meincnodi drwy'r adroddiad blynyddol, Arolwg Busnes Fferm yng Nghymru. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.