Stori Graddedigion – Sarah Odendaal

Sarah yn ystod ei blwyddyn mewn diwydiant
24 Gorffennaf 2026
Rwyf wastad wedi bod yn frwd dros goginio, ac yn ystod fy arddegau dechreuais ymddiddori fwyfwy yn y cwestiwn o ble mae fy mwyd yn dod. Daeth fy niddordeb mewn astudio amaethyddiaeth i'r amlwg yn ystod y flwyddyn saib a gymerais ar ôl gorffen yr ysgol uwchradd.
Ar wahân i’m taid a’m hen nain, a oedd yn weithgar ym myd amaeth yn Rhodesia (Zimbabwe erbyn hyn), nid wyf yn dod o deulu ffermio, nac wedi fy magu mewn ardal amaethyddol. Nid oedd astudio yn fy ngwlad enedigol, De Affrica, yn opsiwn oherwydd pryderon ynghylch diogelwch, felly dechreuais edrych ar gyfleoedd dramor. Yn fuan des ar draws Prifysgol Aberystwyth ac fe’m swynwyd ar unwaith gan y dref a hanes y brifysgol.
Gwneuthum gais i astudio'r radd BSc Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid, a chefais gynnig diamod, a derbyniais ar unwaith. Yna, gwneuthum fy nhaith gyntaf erioed i'r Deyrnas Unedig gyda fy rhieni cyn symud i neuaddau preswyl. Yn ystod fy nwy flynedd gyntaf o astudio, cefais sylfaen gadarn o wybodaeth am systemau amaethyddol y DU.
Er imi ennill profiad gwaith yn godro ac yn gweithio gyda thîm bridio ceirch IBERS yn ystod yr haf ar ôl fy mlwyddyn gyntaf, dim ond yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant y dechreuais wir ddeall llawer o'r cysyniadau yr oeddwn wedi'u dysgu yn y darlithoedd. Treuliais ddeuddeg mis yn gweithio fel bugeiles fuches ym Mryn Celli Ddu Grass Converters, yn godro gwartheg ac yn magu lloi yn ystod y gwanwyn. Dysgais hefyd sut i yrru tractor (er nad oeddwn erioed wedi gyrru car cyn hynny!), gan fod angen imi grafu'r iard bron bob bore ar ôl godro. Roedd cael fy nghyfrifoldeb dros y lloi yn dipyn o her ar y dechrau, ond mae bellach yn un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohonynt. Ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gallu dweud fy mod wedi symud cannoedd o filltiroedd oddi cartref, ar fy mhen fy hun, i fyw a gweithio mewn swydd o'r fath am flwyddyn – ac wedi dod drwyddi'n llwyddiannus – ond dyna'n union a wnes!
Dysgais gymaint am reoli buchod llaeth yn ystod fy lleoliad, ac fe wnes adael y swydd gyda dealltwriaeth llawer gwell o'r heriau sy'n wynebu ffermwyr heddiw, a sut y gellir mynd i'r afael â nhw'n effeithiol.
Mae fy mlynyddoedd yng Nghymru wedi bod ymhlith y cyfnodau gorau yn fy mywyd. Mae'r bobl, y tîm addysgu a'r dirwedd oll wedi fy helpu i dyfu fel person, dod i adnabod fy hun yn well, ac wedi rhoi'r sgiliau a'r hyder imi symud ymlaen i yrfa ym maes amaethyddiaeth, lle rwy'n gobeithio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r diwydiant. Edrychaf ymlaen at gael fy nhrwydded yrru o'r diwedd ac at wneud ceisiadau am swyddi ym maes ymgynghori amaethyddol dros yr haf.
Dysgwch mwy am ein cyrsiau Amaethyddiaeth YMA