Prif Filfeddygon yn trafod TB mewn bywyd gwyllt - cynhadledd Aberystwyth

Rhai o’r siaradwyr yng nghynhadledd ‘AberTB’. O’r dde i’r chwith: Yr Athro Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol y Deyrnas Gyfunol; Dr Andy Robinson; Sarah Tomlinson, Gwasanaeth Cynghori TB yn Lloegr; Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru; Dr Gwen Rees, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain Cangen Cymru; Yr Athro Glyn Hewinson CBE o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Gareth Enticott.

Rhai o’r siaradwyr yng nghynhadledd ‘AberTB’. O’r dde i’r chwith: Yr Athro Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol y Deyrnas Gyfunol; Dr Andy Robinson; Sarah Tomlinson, Gwasanaeth Cynghori TB yn Lloegr; Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru; Dr Gwen Rees, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain Cangen Cymru; Yr Athro Glyn Hewinson CBE o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Gareth Enticott.

19 Medi 2023

Ymunodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol  ag arbenigwyr o ar draws y wlad i drafod twbercwlosis buchol mewn bywyd gwyllt mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Ymysg y siaradwyr yng nghynhadledd ‘Aber TB’ oedd Dr Andy Robertson o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion/Natural England, Sarah Tomlinson o’r Gwasanaeth Cynghori TB yn Lloegr, Dr Bev Hopkins o Ganolfan Milfeddygaeth Cymru, yr Athro Gareth Enticott a Dr Gwen Rees Llywydd Cangen Cymru Cymdeithas Filfeddygol Prydain.    

Dywedodd Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Glyn Hewinson: 

“Mae trafodaethau o’r math yma yn hanfodol er mwyn i ni allu parhau i weithio ar y cyd i daclo’r clefyd hwn yma yng Nghymru a thu hwnt – dyna pam sefydlon ni’r gynhadledd flynyddol ‘AberTB’. 

“Yma yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Aberystwyth, rydyn ni’n ymgysylltu â’r holl randdeiliaid yn ein hymdrech ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o frwydro yn erbyn twbercwlosis mewn gwartheg. Ein nod yw darparu sylfaen dystiolaeth wyddonol gref i gefnogi’r gwaith o ddileu’r clefyd ac i dyfu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.”

Ychwanegodd Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o effaith ddinistriol TB mewn gwartheg ar ein cymuned amaethyddol. Dyma pam mae digwyddiadau megis y gynhadledd heddiw mor bwysig, wrth i ni ddod ynghyd i drafod dileu’r clefyd. Hoffwn i ddiolch i Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru am gynnal y digwyddiad hwn. Fel y mae ein Cynllun Dileu pum mlynedd yn ei wneud yn glir, mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol wrth fynd i’r afael â TB mewn gwartheg.”

Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018 a’i nod yw darparu sylfaen tystiolaeth gref er mwyn cynorthwyo i waredu’r clefyd a datblygu a meithrin arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.