Enwi adeilad Prifysgol er anrhydedd i’r gwyddonydd Gwendolen Rees

Dadorchuddio’r plac er anrhydedd i’r Athro Rees gyda’r Athro Iain Barber, yr Athro Elizabeth Treasure, Katherine Childs, Jane Hankin, yr Athro Joanne Hamilton.

Dadorchuddio’r plac er anrhydedd i’r Athro Rees gyda’r Athro Iain Barber, yr Athro Elizabeth Treasure, Katherine Childs, Jane Hankin, yr Athro Joanne Hamilton.

22 Medi 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ail-enwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Athro Gwendolen Rees, y Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).

Roedd yr Athro F. Gwendolen Rees (1906–1994) yn sŵolegydd o fri ac yn arloesydd ym maes parasitoleg yn Aberystwyth. Ymddangosodd hefyd yng nghylchgrawn British Vogue ym 1975 mewn dathliad o fenywod dylanwadol y cyfnod.

Mewn seremoni swyddogol gyda pherthnasau’r diweddar Athro Rees, fe gafodd yr enw ei ddaddorchuddio ar blac ar gyn adeilad Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar gampws Penglais, sydd bellach yn gartref i’r Adran Gwyddorau Bywyd (DLS) a sefydlwyd yn 2022.

Mae cylch gwaith ymchwil a dysgu’r Adran yn cwmpasu ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys pynciau a astudiwyd yn yr hen Adran Sŵoleg lle bu’r Athro Rees yn gweithio o 1930 hyd ei hymddeoliad ym 1973.

Yn ystod ei gyrfa ac ar ôl ymddeol, cyhoeddodd yr Athro Rees gyfanswm o 68 o bapurau academaidd gyda’r olaf ohonynt yn ymddangos ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 82 oed pan oedd yn Athro Emerita mewn Sŵoleg.

Dadorchuddiwyd y plac yn y seremoni gan ddau o nithoedd yr Athro Rees ynghyd â staff hŷn o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Mae wedi bod yn bleser dadorchuddio’r plac gydag aelodau o deulu’r diweddar Athro Rees. Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol yn anrhydeddu’r Athro Rees fel hyn. Roedd hi’n fenyw ryfeddol a wnaeth gyfraniad rhyngwladol i’w maes ymchwil. Diolch i’w gwaddol hirhoedlog hi, mae Aberystwyth yn parhau hyd heddiw yn ganolfan sy’n arwain y byd ym maes astudio parasitoleg.”

Dewiswyd enw’r Athro Rees yn dilyn pleidlais gan staff yn yr Adran Gwyddorau Bywyd, a chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan Weithrediaeth a Chyngor y Brifysgol.

Talwyd teyrnged i’w rhagflaenydd gan Jo Hamilton, Athro mewn Parasitoleg yn yr Adran Gwyddorau Bywyd:

“Mae’n fraint o fod wedi cael y cyfle i rannu peth hanes o waith ac addysgu arloesol Gwen heddiw. Efallai nad yw Gwen gyda ni mwyach, ond rydym yn dal i elwa ar ei gwaddol gyfoethog a defnyddio rhai o’i sleidiau cywrain o barasitiaid wrth ddysgu myfyrwyr heddiw. Mae’r maes yn parhau yn un o’n cryfderau ymchwil craidd, ac mae gan nifer o’n hacademyddion rolau arwain mewn cymdeithasau parasitoleg rhyngwladol.

“Mae ailenwi’r adeilad hwn nid yn unig yn anrhydeddu un o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, mae hefyd yn nodi carreg filltir arwyddocaol ym mlwyddyn weithredol gyntaf yr Adran Gwyddorau Bywyd. Felly bydd gwaddol yr Athro Rees yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr trwy ein dysgu a thrwy gyflawni ymchwil arloesol sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru a’r byd ehangach.

Mae rhai o slediau cywrain yr Athro Rees o barasitiad ymhlith y 150 o wrthrychau sy’n cael sylw yng nghyfrol dathlu 150 y Brifysgol Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People.

Mae gwaith Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) bellach wedi’i leoli’n bennaf ar gampws Gogerddan y Brifysgol.