Myfyrwraig gyntaf yn ennill gwobr er mwyn rhoi hwb i filfeddygaeth yng Nghymru

Phoebe Smythe yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Phoebe Smythe yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

05 Hydref 2023

Mae’r enillydd cyntaf gwobr newydd i hybu milfeddygaeth yng Nghymru wedi’i gyhoeddi gan Brifysgol Aberystwyth.

Phoebe Smythe, sydd yn 21 mlwydd oed ac yn nhrydedd flwyddyn ei hastudiaethau, yw enillydd cyntaf ‘Gwobr Nantyreira’ a sefydlwyd diolch i rodd hael gan yr amaethwr a ffigwr blaenllaw mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru Tom Jones OBE.

Dyfernir y wobr flynyddol newydd, sy’n werth £300, i fyfyriwr sy’n esiampl i fyfyrwyr eraill yn eu hastudiaethau, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cefnogi cyfoedion a chyfrannu i’r proffesiwn ac i Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth.

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr milfeddygol yn Aberystwyth yn 2021 ac agorwyd yr Ysgol gan y Brenin Charles III.  Hi yw’r unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol yng Nghymru.

Wrth siarad am ennill y wobr, dywedodd y fyfyrwraig filfeddygol Phoebe Smythe, sydd o Swydd Caerwrangon yn wreiddiol:

“Rwy’n hynod falch o ennill y wobr hon ac yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth dwi wedi ei chael gan Brifysgol Aberystwyth. Mae gwobrau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni fel myfyrwyr. Rwy’n gobeithio bydd pobl ifanc eraill, wrth sylweddoli bod gwobrau o’r math ar gael, yn cael eu cymell i astudio’r pwnc.”

Dywedodd Tom Jones OBE:

“Pwrpas y wobr yw annog pobl i ymuno â’r cwrs yn Aberystwyth. Mae’n gyfraniad bach sy’n ceisio cydnabod rhagoriaeth myfyrwyr sydd ar y cwrs.

“Rwy’ wedi enwi’r wobr ar ôl y cwm lle ges i’m magu – Nantyreira – sy’n gymuned amaethyddol y bu bygythiad i’w boddi hi ar gyfer cronfa ddŵr yn y 1970au. Mae milfeddygon ardderchog yn yr ardal, ac mae’r ffermwyr yn ddibynnol arnyn nhw.

“Mae’n hynod o bwysig bod y milfeddygon da hyn yn cydweithio gyda ffermwyr yng Nghymru er mwyn iddyn nhw allu cynhyrchu bwyd, sydd, wedi’r cwbl, yn holl bwysig i’n cymdeithas gyfan.”

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau lu i Phoebe ar ragori yn ei hastudiaethau yma yn Aberystwyth. Hoffwn i hefyd ddiolch i Tom a’r rhoddwyr hael iawn eraill, sy’n parhau i wneud cyfraniad mor bwysig i waith yr Ysgol.

“Mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”