Dyn yn rhedeg y 3 chopa ar gyfer Alzheimers gyda chymorth Prifysgol Aberystwyth

Dr Rhys Thatcher a Will Dean yn y cyfleusterau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dr Rhys Thatcher a Will Dean yn y cyfleusterau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

07 Tachwedd 2023

Mae dyn sy’n dringo tri chopa uchaf Prydain a rhedeg 450 milltir rhyngddynt mewn naw diwrnod ar gyfer ymchwil Alzheimers’ wedi derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae miloedd o bobl yn ymgymryd â’r her tri chopa adnabyddus bob blwyddyn, sydd fel arfer yn golygu cerdded lan a lawr mynyddoedd uchaf Cymru, yr Alban a Lloegr – Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis (Beinn Nibheis) - gan yrru rhyngddynt.

Fodd bynnag, er mwyn codi arian ar gyfer Alzheimers Research UK, nid yn unig y bydd Will Dean yn dringo pob copa, ond mae’n mynd un cam ymhellach gan redeg rhyngddynt yn ogystal. 

Mae cwblhau’r daith 450 milltir yn gyfystyr â rhedeg bron i ddau farathon y dydd. 

Cafodd ei fam, cyn uwch swyddog heddlu yng ngogledd Cymru, ddiagnosis dementia cynnar pan oedd yn 49 mlwydd oed.

Er mwyn cynorthwyo’r ymdrech godi arian aruthrol hon, mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi mynediad i offer arbenigol a chyfleusterau profi i Will er mwyn ei gefnogi wrth baratoi at yr her.  

Tra’n hyfforddi ym Mhrifysgol Aberystwyth, dywedodd Will Dean:

“Dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth yma yn Aberystwyth. Dwi'n gobeithio, wrth ymgymryd â'r her hon, nid yn unig galla i godi llawer o arian at yr achos hynod bwysig hwn ond hefyd dynnu sylw at y cyflwr.

“Mae dementia yn aml yn cael ei frandio fel ‘heneiddio normal’ ond allai hyn ddim bod ymhellach o’r gwir. Bydd fy her yn cynnwys cymryd dros 990,000 o gamau, mae’r nifer hwn yn debyg i gyfanswm y bobl sy’n byw gyda dementia yn y DU heddiw. Mae 7.5% o'r bobl hynny fel fy mam, yn byw gyda dementia o dan 65 oed. Fy nghenhadaeth yw codi arian hanfodol sy'n helpu i wneud byd ag iachâd ar gyfer dementia yn bosibl. Bydd dementia yn effeithio ar un o bob dau o bobl yn ystod eu hoes, mae hyn yn golygu fy mod wedi cysylltu â llawer o bobl sy'n rhannu'r un amcan. Dwi mor ddiolchgar i bawb sy’n cyfrannu a dwi’n gobeithio siarad â llawer mwy yn ystod Her y 3 Chopa.”

Gellir cyfrannu at Alzheimers Research UK fel rhan o her Will, sy’n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Mai 2024, drwy fynd i: https://donate.alzheimersresearchuk.org/publicnew/    

Yn ogystal, fe wahoddir cefnogwyr i ymuno â Will yn ystod ei her drwy gysylltu ag ef ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y ffisiolegydd ymarfer corff Dr Rhys Thatcher o Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi trefnu’r profi:

“Mae ymdrechion Will yn ysbrydoliaeth ac mae’n fraint gallu rhoi ychydig bach o help iddo ar hyd y ffordd. Rydym yn falch y gellir defnyddio ein hoffer a'n harbenigedd yma i'w helpu i godi arian at achos mor bwysig. Rydym ni ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dymuno’r gorau iddo gyda’r her.