Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am ymchwil ffliw adar

Y tîm yn derbyn y wobr.

Y tîm yn derbyn y wobr.

21 Tachwedd 2023

Mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog Fforwm Bwyd y Byd am eu gwaith ymchwil ar fynd i’r afael â ffliw adar. 

Nod eu prosiect yw adeiladu ap i helpu ffermwyr yng nghefn gwlad Nigeria i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau sydd eu hangen i gyfyngu ar ledaeniad Ffliw Adar.

Mae Ffliw Adar nid yn unig yn fygythiad mawr i’r diwydiant dofednod byd-eang ac i boblogaethau adar gwyllt ledled y byd, ond mae hefyd yn peri risg enfawr i iechyd byd-eang.

Mae achosion sylweddol o’r clefyd wedi’u gweld ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn amrywiaeth eang o adar o ieir i balod a phengwiniaid. Rhwng Rhagfyr 2014 a Mai 2016, collodd Nigeria yn unig dros 2.7 miliwn o adar.

Yn dilyn digwyddiadau yng Nghymru'r haf hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru i dwristiaid beidio â chyffwrdd ag adar marw ar arfordir gorllewinol a gogleddol y wlad.

Enillodd y prosiect ymchwil newydd, a arweiniwyd gan bedwar o fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Aberystwyth, wobr her ymchwil a drefnwyd gan Fforwm Bwyd y Byd ac a gefnogir gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig a Phrifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd.

Dywedodd Samson Balogun, un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, a sefydlodd yr Ymgyrch Dileu Clefydau a Esgeulusir (NeDEC):

“Mae’n wych cael y wobr hon gan sefydliadau mor fawreddog. Mae digwyddiadau diweddar yn dangos yr angen dybryd i archwilio dulliau arloesol o atal a rheoli achosion yn y dyfodol yn effeithiol.”

Dywedodd Maria de la Puerta, myfyriwr PhD o Aberystwyth a sylfaenydd Omeva Consulting:

“Gall technoleg wella darpariaeth gwybodaeth amaethyddol a hybu cynhyrchiant ffermwyr. Gyda chyrhaeddiad ffonau symudol yn cynyddu, mae cysylltedd gwledig ymhlith  tyddynwyr wedi’i chwyldroi. Rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y momentwm hwn drwy adeiladu llwyfan, drwy gynnwys yn rhagweithiol ffermwyr dofednod a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gwybodaeth berthnasol, hawdd ei defnyddio ac sydd ar gael all-lein. Yn y pen draw bydd y platfform a’r ap o fudd i iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau.”

Dywedodd goruchwylydd y prosiect, Dr Edore Akpokodje o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr a’r graddedigion sydd wedi ennill y wobr hon. Rwy’n edrych ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw ddatblygu’r prosiect mewn maes sydd mor bwysig.”

Bydd y graddedigion o Brifysgol Aberystwyth Ahmad Hasan a Kodi Monte yn cynorthwyo i sicrhau bod y prosiect yn dilyn egwyddorion Iechyd Cyfunol.

Cynhelir y prosiect mewn partneriaeth â'r Ymgyrch Dileu Clefydau a Esgeulusir (NeDEC), menter ddielw sy'n ymroddedig i leihau effaith clefydau a esgeuluswyd mewn cymunedau lleol yn Nigeria trwy hyfforddiant, addysg ac ymchwil ac Omeva Consulting, cwmni sy'n canolbwyntio ar gyflwyno ac addasu atebion Technoleg Gwybodaeth i ardaloedd gwledig.